Strategaeth Genedlaethol Sipsiwn-Teithwyr
Strategaeth Genedlaethol Sipsiwn-Teithwyr
2 Medi 2009Mae dogfen Cymru'n Un yn ymrwymo Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu Strategaeth Sipsiwn-Teithwyr cenedlaethol. Mae Tîm Sipsiwn-Teithwyr Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio ar hyn o bryd ar ddrafft o'r strategaeth hon, fydd yn cynnwys canllaw ar lety, iechyd, addysg a mynediad cyfartal i wasanaethau.
Yn yr hydref fe fydd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ar y strategaeth ddrafft, fydd yn cynnwys gweithdy ar lety a chynllunio ar gyfer Sipsiwn-Teithwyr a hwylusir gan Gymorth Cynllunio Cymru.
I gael manylion o'r digwyddiadau neu i gael copi o'r strategaeth ddrafft, cysylltwch â Thîm Sipsiwn-Teithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 01685 729210.