Cynhadledd Cymorth Cynllunio y DU 2010 'Cymorth Cynllunio – Ymgysylltu â Chymunedau' Dydd Iau Ebrill 29ain a bore Gwener Ebrill 30ain 2010 Park Inn, Canol Dinas Caerdydd 'Cymorth Cynllunio – Ymgysylltu â Chymunedau' Cynhelir Cynhadledd Genedlaethol Cymorth Cynllunio eleni yng Nghaerdydd. Bydd yn dod â staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr cymorth cynllunio at ei gilydd ynghyd â chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar draws y DU gyfan. Ffocws y gynhadledd fydd sut mae gwasanaethau cynllunio'r DU eisoes yn ymgysylltu â chymunedau a sut y gallwn wneud yn well yn y dyfodol. Bydd amgylchedd gyfeillgar, hamddenol yn annog cynadleddwyr i gyfnewid syniadau, i ysbrydoli ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Bydd rhaglen fywiog o weithdai, grwpiau trafod a theithiau maes yn arddangos ymarfer gorau mewn ymgysylltu â chymunedau wrth gynllunio ac mentrau cymunedol calonogol fydd yn elwa o gefnogaeth cymorth cynllunio. Bydd cyfleoedd hefyd i drafod a datblygu atebion i'r heriau cyffredin a wynebir pan yn gweithio gyda chynllunwyr a chymunedau. Thema ail ddiwrnod y gynhadledd bydd cryfhau'r cysylltiadau rhwng y gwasanaethau cymorth gwahanol yn y DU a trafod meysydd lle mae synergedd yn bosibl rhwng gweithgareddau cymorth cynllunio ac ynni'r gymuned. Ym mha feysydd mae'r potensial gorau a sut dylid eu blaenoriaethu? Sut gall gwasanaethau'r DU gefnogi ei gilydd i ddatblygu'r potensial? Mae'r gynhadledd yn gyfle amhrisiadwy i'r rhai sy'n ymwneud â chymorth cynllunio ledled y DU i ddod at ei gilydd i gael eu hysbrydoli ac i ddatblygu syniadau newydd i gefnogi cymunedau. ************************************ Cyfleoedd arddangos Arddangoswyr corfforaethol: £500 Arddangoswyr y sector wirfoddol: £200 Am fanylion ffoniwch 01286 882 834 ************************************* Rhaglen Nos Fercher Ebrill, 28ain, 6.30yh Gwahoddir y cynadleddwyr i noson gwis wedi ei threfnu gan Gymorth Cynllunio Cymru a Rhwydwaith Cynllunwyr Ifanc Cymru yng ngwesty'r Park Inn. Cost y cwis (fydd yn daladwy ar y noson) fydd £4 i bob cystadleuydd (£3 i fyfyrwyr) gyda'r elw'n mynd at Gymorth Cynllunio Cymru a Rhwydwaith Cynllunwyr Ifanc Cymru. Nid yw gwybodaeth gynllunio arbenigol yn angenrheidiol! Rydym yn croesawu cystadleuwyr yn unigol neu fel tîm i'r cwis. Rydym yn edrych am dimau o bump neu lai i gystadlu. Bydd yn iawn os ydych am gystadlu fel unigolyn oherwydd byddwn yn eich rhoi mewn tîm ar y noson. Ceir manylion a ffurflen gofrestru ar http://www.cymorthcynlluniocymru.org.uk/volunteering/quiznight Dydd Iau Ebrill 29ain: 9.30 yb Cofrestru, te a choffi 10.00 yb Sesiwn lawn gychwynnol: * Cyflwyniad y Cadeirydd, Kelvin MacDonald, Adran Economi'r Tir, Prifysgol Caergrawnt * Anerchiad y Gweinidog, Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru 10.30 yb Sesiynau gweithdy 1 a 2 1.00 yp Cinio 2.00 yp Sesiynau gweithdy 3 a 4 5.30 yp Gorffen 7.30 yh Cinio'r gynhadledd 9.00 yh Twmpath dawns Dydd Gwener Ebrill 30ain: 9.00 yb Cofrestru, te a choffi 9.30 yb Gweithdai i ddatblygu meysydd synergedd 11.00 yb Gweithdai i flaenoriaethu meysydd gwaith cymorth cynllunio yn y dyfodol 12.00 yp Sesiwn lawn i nodi a chytuno ar feysydd i'w blaenoriaethu ar gyfer gwaith cymorth cynllunio yn y dyfodol 12.30 yp Sesiwn lawn i gloi a sylwadau terfynol o'r Gadair 1.00 yp Cinio a ffarwelio Pigion o'r gweithdai: * Rhoi llais i gymunedau mewn Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd, dan arweiniad Sue Webber, South West Planning Aid * Canlyniadau cyntaf o brosiect Cyfryngu mewn Cynllunio, dan arweiniad Kay Powell, National Planning Forum for England * Datblygiad effaith isel, dan arweiniad Paul Wimbush, Lammas Eco Village * Cynlluniau ynni adnewyddol cymunedol, dan arweiniad Grenville Ham, The Green Valleys * Cefnogi Sipsiwn a Theithwyr, dan arweiniad Ian Horsburgh, Planning Aid Wales Ceir y rhaglen ddiweddaraf a gwybodaeth bellach am y gynhadledd ar www.cymorthcynlluniocymru.org.uk/conference. ************************************** Cynhadledd Cymorth Cynllunio y DU 2010 Ffurflen archebu ( Llungopïwch y ffurflen hon ar gyfer cynadleddwyr ychwanegol. ) Manylion cynadleddwr Enw: __________________________________ Teitl swydd: __________________________________ Sefydliad: __________________________________ Ebost: __________________________________ Ffôn: __________________________________ Cyfeiriad: __________________________________ __________________________________ Cyfeiriad anfoneb (os yn wahanol i'r uchod): __________________________________ Archebu lle yn y gynhadledd __ Ffî llawn y gynhadledd: £180 __ Gradd ostyngedig ar gyfer staff a gwirfoddolwyr cymorth cynllunio: £110 Mae'r ffî yn cynnwys cinio a lluniaeth ar ddyddiau'r gynhadledd yn ogystal â chinio nos ar y nos Iau. Ni chynhwysir llety dros nos. Cysylltwch â ni yngl?n â gostyngiadau dewisol ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol. Llety Mae rhai o wirfoddolwyr Cymorth Cynllunio Cymru wedi cytuno i roi llety am ddim i gynadleddwyr. Os hoffech gael eich ystyried am hyn, byddwch cystal â nodi'ch dewis isod. __ Hoffwn aros yng nghartref gwirfoddolwr Cymorth Cynllunio Cymru ar nos Iau. (Os oes lle ar gael.) __ Hoffwn aros yn nghartref gwrifoddolwr Cymorth Cynllunio Cymru ar nos Fercher a nos Iau. (Os oes lle ar gael.) __ Anfonwch restr o westai lleol. Gofynion arbennig Nodwch isod os oes gennych unrhyw ofynion deiet neu ofynion eraill arbennig. ____________________________________________________________ ____________________________________________________________ Amodau archebu Mae'n rhaid talu o flaen llaw. Bydd canslo o fewn 30 diwrnod i'r gynhadledd yn golygu talu'r swm cyflawn. Cyn 30 diwrnod, codir 50% o'r gost. Gellir enwebu eilyddion am ddim. Diogelu Data Os nad ydych am gael mwy o wybodaeth trwy'r post ynghylch ein digwyddiadau ticiwch yma. __ Anfonwch eich ffurflen archebu a'ch siec yn daladwy i Cymorth Cynllunio Cymru at: Cymorth Cynllunio Cymru, 174 Heol yr Eglwys Newydd, Y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 3NB. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kay Sharman ar 02920 625 009 neu kay@cymorthcynlluniocymru.org.uk.