Cefnogi cynghorau tref a chymuned ym Mannau Brycheiniog
Cefnogi cynghorau tref a chymuned ym Mannau Brycheiniog
5 Maw 2010Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi comisiynu Cymorth Cynllunio Cymru am yr ail dro i gynorthwyo cynghorau tref a chymuned i gyfrannu at baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal y parc.
Yn 2008, yng nghyfnod cynnar y broses Cynllun Datblygu Lleol, darparodd Cymorth Cynllunio Cymru gyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer cynghorau tref a chymuned o fewn ardal y parc cenedlaethol. Roedd y gweithdai hyn yn esbonio proses Cynllun Datblygu Lleol ac yn annog cynghorau tref a chymuned i chwarae rhan weithredol ynddi. Gwnaethant hefyd gyflwyno cyfranogwyr i amrediad o ddulliau a thechnegau i ymrwymo'u cymunedau lleol. O ganlyniad i'r gwaith hwn gweithiodd y rhan fwyaf o'r cynghorau gyda'u cymunedau lleol i ddatblygu cyfraniad lleol i'r Cynllun Datblygu Lleol oedd yn datblygu.
Yn Ionawr 2009, cyhoeddodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ei Strategaeth a Ffefrir, a chynhaliwyd digwyddiadau a chyfarfodydd ymgynghori i gasglu sylwadau unigolion a chynghorau tref a chymuned. Mae cymunedau eu hunain hefyd wedi trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd. Mae amserlen rheolaidd o weithgaredd ymgynghori ac ymrwymo wedi galluogi Awdurdod y Parc Cenedlaethol i adeiladu llun o rai o'r pryderon allweddol sydd gan gynghorau tref a chymuned ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol sy'n datblygu.
Nawr comisiynwyd Cymorth Cynllunio Cymru i gyflwyno rhaglen arall o weithdai hyfforddi a meithrin gallu i gefnogi cyfranogaeth y gymuned yn ystod cyfnodau terfynol paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol o'r 'Ymgynghoriad Adneuo' trwodd i'r Ymchwiliad Cyhoeddus. Bydd y rhaglen hyfforddi rhyngweithredol yn cynnwys tri gweithdy gwahanol a fydd yn parhau am hanner diwrnod yr un ac a draddodir yn ddilynol rhwng diwedd Mawrth a chanol Mehefin 2010.
Bydd y cyfranogwyr yn dysgu am y broses o baratoi cynllun hyd yma ynghyd â'r camau allweddol sydd eto i'w cwblhau. Un agwedd o greu cynllun sydd, yn draddodiadol, wedi denu diddordeb mawr gan gymunedau lleol yw dethol safleoedd penodol ar gyfer adeiladu tai, ac felly esbonnir y fethodoleg a ddatblygwyd gan yr awdurdod cynllunio ar gyfer hyn mewn dull eglur a rhesymegol.
Tynnir sylw'r cyfranogwyr at ymgynghoriadau allweddol gan ystyried ffyrdd ymarferol o nodi a bwydo sylwadau ac uchelgeisiau eu cymunedau lleol yn rhain. Cânt hefyd y cyfle i archwilio'r hyn y gallant hwy ei wneud i fwyhau effaith eu hymrwymiad yn y broses.
Bydd y rhaglen yn gorffen gyda sesiwn galw-i-mewn fydd yn rhoi cymorth a chanllaw ar gyfer cynghorau tref a chymuned sy'n ystyried paratoi ymateb i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r digwyddiadau hyn yna ebostiwch strategy@breconbeacons.org
Os hoffech ddarganfod mwy am y posibilrwydd o gael rhaglen hyfforddi tebyg yn eich ardal, cysylltwch â Swyddog Hyfforddi Cymorth Cynllunio Cymru, Maria Allen.