Cyhoeddiadau canllaw wedi'u diweddaru
Cyhoeddiadau canllaw wedi'u diweddaru
11 Maw 2011Mae Cymorth Cynllunio Cymru bellach wedi cyhoeddi' fersiynau diweddaraf o'r cyhoeddiadau canllaw canlynol:
Mae 'Beth i'w wneud pan yn wynebu cais cynllunio yng Nghymru' yn rhoi gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i geisiadau cynllunio a sut i gyflwyno sylwadau effeithiol a pherthnasol i'r awdurdod cynllunio lleol. Dylunwiyd y llyfryn ar gyfer pobl sydd am gefnogi neu wrthwynebu cais cynllunio yn eu hardal.
Mae 'Canllaw i'r cyhoedd ar orfodaeth cynllunio yng Nghymru' yn rhoi arolwg o ymarferion a threfnweithiau gorfodaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i baratoi ar gyfer apêl gorfodaeth.Dyluniwyd y llyfryn ar gyfer pobl sydd am apelio yn erbyn gweithredu gorfodol gan yr awdurdod cynllunio lleol, ac hefyd pobl sy'n pryderu ynghylch datblygiad sydd efallai heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol.
Mae 'Gweld y goleuni: Cynllunio a hawl i olau yng Nghymru' yn rhoi arolwg o'r materion sy'n ymwneud â goleuni a chysgodi yn y broses gynllunio yng Nghymru. Dyluniwyd y llyfryn ar gyfer pobl sy'n pryderu bod cais am ddatblygiad newydd yn mynd i gael effaith 'cysgodol' annerbyniol ar eu heiddo, ac mae hefyd ar gyfer datblygwyr sydd am sicrhau na fydd eu hadeilad yn achosi colli golau i eiddo cyfagos ar radd annerbyniol.
I weld y dogfennau cliciwch yma.