Mae Cymorth Cynllunio Cymru (CCC) yn sefydliad elusennol, annibynnol sy'n helpu unigolion a chymunedau ledled Cymru i gymryd rhan yn fwy effeithiol yn y system gynllunio.
Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor diduedd, annibynnol yn rhad ac am ddim i bobl a grwpiau sydd methu fforddio talu ymgynghorydd cynllunio ac rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn y system gynllunio er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol.
I ddarganfod mwy am y gwasanaethau a ddarparwn, ewch i'r dudalen Sut gallwn ni helpu. I ddarganfod mwy am ein prosiectau cyfredol a'n gweithgareddau ewch i Prosiectau.
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn gweithio i greu system gynllunio fwy teg a mwy tryloyw er mwyn i'r cyhoedd yng Nghymru gymryd rhan yn effeithiol. Rydym yn arddel y gwerthoedd canlynol:
- Elusennol: Rydym yn sefydliad elusennol a nid yw'n fwriad gennym i wneud elw.
- Gwirfoddoli: Rydym yn defnyddio'n rhwydwaith o wirfoddolwyr cynllunio proffesiynol, cymwysedig i roi cyngor a chefnogaeth.
- Rhad ac am ddim: Cynigiwn ein gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am ddim i grwpiau ac unigolion cymwys. I weld y meini prawf a ddefnyddiwn i asesu cymhwyster cliciwch yma.
- Annibynnol: Mae'r wybodaeth a'r cyngor a ddarparwn yn ddiduedd.
- Gwella dealltwriaeth: Rydym yn gweithio gyda phobl i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol iddynt gymryd rhan yn fwy effeithiol yn y system gynllunio.
I ddarganfod mwy am ein cynlluniau at y dyfodol, cliciwch yma i lawrlwytho ein Cynllun Busnes tair blynedd cyfredol.
Darperir gwasanaethau Cymorth Cynllunio Cymru gan dîm bach o staff, yn gweithio gyda'n rhwydwaith, ledled Cymru, o wirfoddolwyr cynllunio a chymuned ymroddgar, a goruchwylir y cyfan gan Fwrdd Cyfarwyddwyr. Rydym yn annibynnol o awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog ac yn dibynnu ar arian grant a rhoddion gan y cyhoedd i ddarparu ein gwasanaethau.
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith diweddar, ewch i'n tudalennau newyddion neu cliciwch yma i lawrlwytho'n Adroddiad Blynyddol diweddaraf.
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn un o deulu o wasanaethau cymorth cynllunio yn y Deyrnas Unedig. Os ydych am wybod mwy am y mudiad Cymorth Cynllunio neu am waith gwasanaethau cymorth cynllunio eraill, yna ewch i dudalen Beth yw cymorth cynllunio?
Mae Cymorth Cynllunio Cymru'n elusen gofrestredig (Rhif 1000115) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant (Rhif 02526875). Os ydych am wybod mwy am Gymorth Cynllunio Cymru a'r gwaith a wnawn, cysylltwch â ni yma.