Rheolir Cymorth Cynllunio Cymru gan Fwrdd o bymtheg Cyfarwyddwr-Ymddiriedolwr. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn ac mae'n atebol dan gyfraith elusennau a chwmnïau i sicrhau ein bod yn cadw at ein hamcanion elusennol a bod ein harian yn cael ei reoli'n effeithiol.
Mae aelodau'r Bwrdd yn cynrychioli amrediad eang o ddiddordebau cynllunio a diddordebau cysylltiol a dônt o nifer o wahanol sectorau, yn cynnwys llywodraeth leol, ymgynghoriaeth, academia a sefydliadau cynllunio ac amgylcheddol cysylltiol. Mae'r Cyfarwyddwyr yn cymryd rhan mewn pwyllgorau a gweithgorau.
Mae Cyfarwyddwyr yn gwasanaethu ar y Bwrdd rheoli fel unigolion yn eu rhinwedd eu hun; nid ydynt yn cynrychioli buddion y sefydliadau maent yn gweithio iddynt.
Cyfarwyddwyr presennol y Bwrdd:
Tony Humphreys – Cynllunydd Siartredig (wedi ymddeol)
Neil Harris – Uwch-ddarlithydd, Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd
Peter Kingsbury – Uwch-gynllunydd, Cyngor Caerdydd
Ian Horsburgh – Cynllunydd Siartredig (wedi ymddeol)
Allan Archer – Rheolwr Trawsnewid a Buddiannau Busines, Dinas a Sir Abertawe
Gayle Wootton – Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Lucie Taylor - Swyddog Cyswllt Polisi Cynllunio, Cyngor Dinas Casnewydd
Katherine Hughes – Ymgynghorydd ymchwil a datblygu cymuned
Kathleen Norton – Cynllunydd Siartredig (wedi ymddeol)
Owain Wyn – Ymgynghorydd cynllunio ac adfywio
Laura Dagless - Myfyrwraig sy'n gwirfoddoli gyda Chymorth Cynllunio Cymru
James Griffiths - Cydlynnydd Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol
Anna Prescott - Cynrychiolydd a enwebwyd gan RTPI Cymru
Dau safle wag – i'w llenwi yn dilyn recriwtio
Mae gan Gymorth Cynllunio Cymru ddiddordeb mewn recriwtio Cyfarwyddwyr o wahanol gefndiroedd a chanddynt amrediad o sgiliau gwahanol i'w cynnig. Nid oes rhaid i Gyfarwyddwyr fod yn gynllunwyr proffesiynol na'n ymwneud â'r sector gynllunio. Os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch lawrlwytho pecyn gwybodaeth yma neu gysylltu â ni am sgwrs.