Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Gwirfoddolwyr

Sefydlwyd Cymorth Cynllunio Cymru gydag ymdrechion cynllunwyr oedd yn wirfoddolwyr a roddodd eu hamser a'u gwybodaeth broffesiynol i helpu aelodau'r cyhoedd i ddeall y system gynllunio a chymryd rhan ynddi. Heddiw, mae gwirfoddolwyr yn parhau i gynorthwyo'r cyhoedd, ond maent hefyd yn darparu cefnogaeth ar draws amrediad o weithgareddau eraill, yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant ac ysgrifennu cyhoeddiadau canllaw.

Ar hyn o bryd mae tua trigain o wirfoddolwyr yn gweithio ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'n gwirfoddolwyr yn gynllunwyr cymwysedig a phrofiadol. Mae'r rhwydwaith o wirfoddolwyr wedi tyfu dros y blynyddoedd diweddar a byddwn yn parhau i ddatblygu'r rhwydwaith i gynnwys sectorau eraill a chael mwy o wirfoddolwyr ledled Cymru yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rydym nawr yn derbyn gwirfoddolwyr sy heb brofiad cynllunio ond sy â sgiliau eraill megis datblygu cymuned, marchnata, hyfforddi a chodi arian.

I ddarganfod mwy am ein gwirfoddolwyr, beth maent yn ei wneud a sut i wirfoddoli, ewch i'n adran gwirfoddolwyr.