Beth yw prynu gorfodol a hawliau statudol?
Dyma pan mae llywodraeth ganolog, awdurdod lleol neu gwmni preifat â'r hawl gyfreithiol i brynu neu hawlio eich eiddo os yw'n gorwedd o fewn ardal prosiect cyhoeddus neu breifat. Prosiectau mawr fel estyniadau mawr i feysydd awyr neu estyniadau llai i bibellau carthffosiaeth, dŵr neu nwy yw'r rhain.
Ym mhob achos, rhoddir 'hysbysiad' i berchnogion a meddianwyr yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan brosiect a chynigir 'iawndal' iddynt i adlewyrchu'r colledion a'r aflonyddwch a achosir gan brynu gorfodol neu gynllun 'statudol'.
Hysbysiadau
Rhaid i awdurdodau sydd am gymryd tir neu hawliau trwy brynu gorfodol hysbysu pob unigolyn yr effeithir arno, gan ddatgan beth fydd effeithiau'r cynllun. Mae hyn yn cynnwys tirfeddianwyr, tenantiaid, meddianwyr, trigolion cyfagos ac ati.
Bydd yr hysbysiad yn nodi cyfnod o amser pryd y gall pobl wrthwynebu’r cynllun. Rhaid i'r cyfnod amser fod o leiaf 21 diwrnod o'r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.
Gwrthwynebiadau
Rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig i'r awdurdod sy am 'feddianu' o fewn yr amser a nodir yn yr hysbysiad. Dim ond y gwrthwynebiadau i'r cynllun a wneir o fewn y cyfnod penodedig gan bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol sydd â'r hawl i'w clywed mewn Ymchwiliad Cyhoeddus.
Bydd awdurdod sy am feddianu tir yn ceisio trafod gyda'r gwrthwynebwyr cyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus. Efallai byddant yn barod i newid cynllun fel y gall y gwrthwynebiad gael ei dynnu yn ôl.
Byddem yn eich cynghori'n gryf, cyn tynnu gwrthwynebiad yn ôl, eich bod yn gwneud yn siwr bod popeth y cytunwyd arno yn sownd mewn cytundeb a ellir ei orfodi'n gyfreithiol. Bydd eich cyfreithiwr yn gallu eich cynghori am hyn.
Iawndal (pan gymerir tir)
Mae iawndal a dderbynnir yn dilyn prynu tir yn orfodol yn seiliedig ar yr egwyddor o 'gyfwerthedd'. Golyga hyn na ddylech fod yn waeth na'n well eich byd yn ariannol wedi colli'r tir nag a oeddech cynt.
Disgwylir i bobl a effeithir arnynt gan orchymyn prynu gorfodol i 'leddfu' (neu leihau) unrhyw golledion ganddynt hwy o ganlyniad i'r cynllun prynu gorfodol neu statudol. Os cynyddir eich colledion o ganlyniad i'ch gweithredu (neu ddiffyg gweithredu) ni fydd hawl gennych i gael iawndal am y colledion hyn.
Os derbyniwch orchymyn prynu gorfodol i brynu eich tir, neu hysbysiad statudol i osod pibellau neu geblau, mae i fyny i chi i ddweud wrth eich awdurdod lleol sut bydd y cynllun yn effeithio arnoch chi a'ch eiddo. Er enghraifft, bydd rhaid ichi esbonio'n union sut bydd yn effeithio ar eich mwynhad o'ch eiddo.
Mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnodion o bob gohebiaeth gyda'r awdurdod 'meddianu' o ddechrau'r broses prynu gorfodol. Hefyd, rhaid i chi gadw cofnod o'ch holl dreuliau a'ch colledion. Bydd hyn yn rhoi sail gadarnach i chi i gael y costau'n ôl fel rhan o'ch hawl am iawndal.
Mae’n bwysig gwybod nad ystyrir effaith gorchymyn prynu gorfodol ar werth eiddo pan asesir iawndal. Amcangyfrifir gwerth y tir a / neu'r eiddo ar sail ei werth ar y farchnad agored, heb gynnydd neu leihad yn y gwerth hwnnw a all fod o ganlyniad i'r datblygiad arfaethedig.
Iawndal (lle na chymerir tir)
Ambell waith mae hawl i iawndal pan na chymerir tir, ar adegau pan fo pwerau statudol mewn grym. Mewn amgylchiadau fel hyn dylai'ch hawl am iawndal gynnwys unrhyw leihad yng ngwerth eich tir neu eiddo a achosir gan adeiladu gweithfeydd cyhoeddus a hefyd gan ddefnydd y gweithfeydd yn dilyn adeiladu.
Iawndal am effeithiau andwyol y datblygiad
Yn ogystal â lleihau gwerth tir, gall gwaith datblygu achosi anhwylustod ac aflonyddwch i bobl sy'n byw yn yr ardal. Mae gan yr awdurdod sy'n 'meddianu' rai dyletswyddau a phwerau i weithredu i helpu lleihau effaith y datblygiad. Adwaenir y gweithrediadau hyn fel 'mesurau lliniaru'.
Os effeithir arnoch gan gynllun prynu gorfodol neu weithfeydd statudol, dylech ofyn am fesurau lliniaru. Gall rhain gyfyngu ar effaith y cynllun ar eich eiddo. Er enghraifft, os yw ffordd i'w hadeiladu ar ddiwedd eich gardd, gallai mesurau lliniaru gynnwys cynllun plannu coed i leihau effeithiau'r cynnydd yn sŵn y traffig.
Mwy o wybodaeth
Ceir mwy o wybodaeth ar brynu gorfodol ac iawndal yn y llyfrynau canllaw 1 i 5 o'r gyfres o gyhoeddiadau 'Prynu Gorfodol ac Iawndal' a gyhoeddir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. I weld y dogfennau, cliciwch yma.