Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Asesiad Amgylcheddol Strategol

Rhaid i bob Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gael Arfarniad o Gynaliadwyedd sydd wedi ei baratoi ochr yn ochr â'r cynllun. Mae hwn yn nodi sut fydd y cynllun yn cyflawni amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i gyflawni datblygiad cynaliadwy. Dylai'r broses gynnwys ffyrdd i newid y cynllun os yw'n debygol na fydd yn cyflawni'r amcanion hyn.

Hefyd rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol gael Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS - neu SEA yn Saesneg) i asesu effeithiau posibl y cynllun ar yr amgylchedd. Dylai’r broses AAS nodi'r ffyrdd y gellid newid y cynllun os yw'r effeithiau amgylcheddol yn debygol o fod yn annerbyniol. Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol yn ofynnol o ganlyniad i Gyfarwyddeb Ewropeaidd sydd wedi ei drosi (neu ei drosglwyddo) i ddeddfwriaeth cynllunio y Deyrnas Unedig.

Ar gyfer paratoi CDLl, mae'r gofyn am Asesiad Amgylcheddol Strategol yn gynhwysedig o fewn proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ehangach.

Beth yw'r broses?

Wrth gychwyn paratoi CDLl mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu 'adroddiad cwmpasu' i osod y prif faterion i'w trafod a'r lefel o fanylion i'w cynnwys. Ymgynghorir â chyrff ymgynghori amgylcheddol a sefydliadau partner lleol eraill ar yr adroddiad cwmpasu. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod Asesiad Amgylcheddol Strategol y cynllun yn cynnwys y pethau y dylai.

Cam nesaf y broses yw paratoi adroddiad cynaliadwyedd cychwynnol gan yr awdurdod lleol. Paratoir hyn ochr yn ochr â pharatoi'r Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y CDLl. Mae'r materion a drafodir yn cynnwys yr effaith bosibl ar blanhigion, anifeiliaid neu bobl.

Rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â'r cyhoedd ar yr adroddiad cynaliadwyedd cychwynnol a'r strategaeth a ffafrir. Defnyddir yr ymatebion a dderbynnir i'r ymgynghoriad hwn i helpu datblygiad pellach y cynllun, fydd yn arwain yn y pen draw at y Cynllun Adneuo terfynol. Ar yr un pryd, bydd yr awdurdod yn adolygu'r adroddiad cynaliadwyedd ac ymgynghori arno. Bydd hysbysebion cyhoeddus yn y wasg leol a / neu ar wefan yr awdurdod yn dweud wrthych am y broses a sut y gallwch fewnbwnio'ch sylwadau.

Dylai bod copi o'r Cytundeb Cyflawni ar wefan yr awdurdod. Dylech edrych ar hwn i gael syniad o pryd i ddisgwyl y cyfnod ymgynghori ar yr Adroddiad Cynaliadwyedd a'r CDLl Adneuo.

Ydy proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn golygu nad oes rhaid i gynnig datblygu yn y DCLl gael Asesiad Effaith Amgylcheddol?

Nac ydy. Os oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol ar ddatblygiad arfaethedig mae'n rhaid i'r person sy'n ceisio am ganiatâd ar gyfer y datblygiad baratoi 'datganiad amgylcheddol'. Mae hwn yn nodi effeithiau posibl y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd ac yn edrych ar ffyrdd i leiau effeithiau niweidiol.

Bydd y datganiad amgylcheddol fel arfer yn cyfeirio at yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, ond ni ddylai ailadrodd rhannau ohono. Fel rheol, mae'r Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn gyffredinol ac yn eang lle bo'r Asesiad Effaith Amgylcheddol yn edrych ar faterion mwy manwl sy'n benodol i'r safle.

Sut gallaf gymryd rhan?

Gallwch roi sylwadau ar yr adroddiad cynaliadwyedd cychwynnol, y fersiwn a baratoir i gydfynd â'r Cynllun Adneuo a'r Cynllun Adneuo ei hun. Bydd eich sylwadau'n helpu gwella'r proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ac hefyd fersiwn olaf y CDLl.

Mwy o wybodaeth am Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

Cewch wybodaeth fwy manwl am Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol y Cynlluniau Datblygu Lleol ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy glicio yma.