Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Apeliadau cynllunio

Fel arfer cyflwynir apêl cynllunio gan y person sydd wedi gwneud cais cynllunio (yr 'ymgeisydd'). Gwneir yr apêl yn erbyn gwrthodiad y cais gan yr awdurdod cynllunio lleol. Cyflwynir apeliadau i'r Arolygiaeth Gynllunio, un o asiantaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rhaid cyflwyno pob apêl o fewn chwe mis i wrthodiad y cais cynllunio.

Hefyd, gellir gwneud apeliadau i:

  • Ddileu neu newid amodau caniatâd cynllunio.
  • Ofyn am Dystysgrif Cyfreithlondeb Datblygiad neu Ddefnydd Arfaethedig / Presennol.
  • Apelio yn erbyn gwrthodiad caniatâd adeilad rhestredig, ardal gadwraeth neu reoliadau hysbysebu.
  • Apêl yn erbyn Hysbysiad Gorfodaeth.
  • Apêl yn erbyn gwrthodiad gwaith ar goed dan orchymyn cadwraeth coed.

Fel arfer ymgymerir a phenderfynnir ar apeliadau gan Arolygydd Cynllunio annibynnol a apwyntir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gellir delio gydag apeliadau mewn tair ffordd gwahanol:

  1. Mewn Ymholiad Cyhoeddus
  2. Mewn 'gwrandawiad'
  3. Mewn 'datganiadau ysgrifenedig'

Yn y tair achos, rhaid anfon sylwadau ar yr apêl erbyn y dyddiad terfyn a bennir gan yr Arolygydd neu ni roddir ystyriaeth iddynt.

Os na gawsoch ganiatâd cynllunio neu os ydych wedi derbyn hysbysiad gorfodaeth, yna dylech ddarllen llyfrynnau canllaw'r Arolygiaeth Gynllunio 'Gwneud eich apêl cynllunio' neu 'Gwneud eich apêl gorfodi' am fwy o wybodaeth.

Os hoffech gymryd rhan yn y broses apêl edrychwch ar lyfryn yr Arolygiaeth Gynllunio o'r enw 'Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio'.

Neu gallwch archebu copïau o'r llyfrynnau canllaw uchod trwy ysgrifennu at:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ