Mae gan Lywodraeth y Cynulliad rym i 'alw i mewn' mathau penodol o geisiadau cynllunio. Golyga hyn mai'r Cynulliad fydd yn gwneud y penderfyniad yn hytrach na'r awdurdod cynllunio lleol. Pur anaml mae hyn yn digwydd yng Nghymru a dim ond i lond llaw o geisiadau y mae'n berthnasol bob blwyddyn.
Yr unig adeg mae cais yn debygol o gael ei alw i mewn yw os:
- yw'n gwrthdaro â pholisïau cynllunio cenedlaethol;
- yn debygol o gael effaith ehangach y tu hwnt i'r ardal gyfagos;
- yn debygol o achosi dadlau sylweddol tu hwnt i'r ardal gyfagos;
- yn debygol o gael effaith sylweddol ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol, cadwraeth natur neu hanesyddol, neu ar ardaloedd lle mae tirwedd pwysig;
- yn codi cwestiynau o ddiogelwch cenedlaethol; neu
- yn codi materion cynllunio newydd.
Os hoffech ddarganfod mwy am y broses galw i mewn, gallwch weld canllaw a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy glicio yma.