Pan fydd awdurdod cynllunio yn derbyn cais cynllunio, dylai hysbysu pawb a effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y datblygiad arfaethedig. Gelwir hyn yn 'ymgynghoriad cyhoeddus'. Fel arfer, hysbysir pawb sy'n byw neu'n gweithio mewn eiddo yn union drws nesaf i safle'r cais ac fe’u gwahoddir i anfon eu sylwadau ar y cais.
Bydd hyd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dibynnu ar ddau beth:
- y math o ddatblygiad a gynigir,
- y math o gais cynllunio.
Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i bob cais cynllunio (heblaw'r rhai am ganiatâd hysbysebu). Gwneir hyn gan yr awdurdod cynllunio trwy anfon llythyr at feddianwyr cyfagos a / neu roi hysbysiad cyhoeddus mewn lle amlwg ar neu'n agos i safle'r cais.
Rhaid hysbysebu cais cynllunio am ddatblygiad mwy, neu am gais sydd ddim yn cydfynd â pholisïau cynllunio mewn cynllun datblygu 'mabwysiedig' (a adwaenir fel 'gwyriad' o'r cynllun) mewn papur newydd lleol yn ogystal â rhoi gwybod i'r cymdogion yn uniongyrchol. Enghreifftiau yw cais i adeiladu deg neu fwy o dai, a datblygiad heb dai sydd yn fwy nag arwynebedd llawr o 1,000 medr sgwâr. Hefyd rhaid hysbysebu ceisiadau 'treftadaeth', sy'n ymwneud â gwaith arfaethedig i adeiladau rhestredig neu ddatblygiad mewn ardal gadwraeth, mewn papurau newydd lleol.
Gall unrhyw unigolyn, grwp neu sefydliad roi sylwadau ar unrhyw gais cynllunio. Rhoddir yr holl sylwadau a dderbynnir gan yr awdurdod cynllunio ar ffeil achos y cais cynllunio. Gall unrhyw un ofyn am eu gweld, yn ogystal â dogfennau eraill yn ffeil y cais.
Rhaid cynnal ymgynghoriad ar gais cynllunio am o leiaf 21 diwrnod i roi digon o amser i'r cyhoedd ymateb. Fel arfer, bydd unrhyw sylwadau a gyflwynir wedi i'r cyfnod ymgynghoriad ddod i ben, yn cario llai o bwysau na'r rhai a gyflwynwyd o fewn y cyfnod priodol. Fodd bynnag, bydd rhai awdurdodau cynllunio’n derbyn sylwadau ar ôl y cyfnod 21-diwrnod – mae'n werth holi ai dyna fel mae gyda'ch awdurdod cynllunio lleol chi.