Nid oes angen cael caniatâd cynllunio bob tro ar gyfer rhai mathau o ddatblygiad. Adwaenir estyniadau, ychwanegiadau ac addasiadau bach i dai fel 'datblygu a ganiateir', sy’n golygu nad oes angen cael caniatâd cynllunio.
Y mathau mwyaf cyffredin o ddatblygu a ganiateir yw estyniadau i dai, sy'n gorfod parchu rhai cyfyngiadau a rhwystrau megis eu huchder, maint a'u lleoliad.
Ar gyfer rhai achosion o ddatblygu a ganiateir, rhaid i'r awdurdod cynllunio roi 'cymeradwyaeth o flaen llaw'. Er enghraifft, rhaid cael cymeradwyaeth o flaen llaw ar gyfer datblygiad amaethyddol neu ryw gyfarpar telathrebu.
Nodwch nad yw hawliau datblygu a ganiateir fel arfer mewn grym parthed adeiladau rhestredig a'r ardal o'u hamgylch, mewn ardaloedd cadwraeth, neu mewn ardaloedd gyda gwarchodaeth arbennig megis Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.
Mae gan awdurdodau cynllunio y grym i ddiddymu hawliau datblygu a ganiateir mewn ardaloedd penodedig trwy ddefnyddio rhywbeth a elwir yn 'Gyfarwyddyd Erthygl 4'.
Cynhwysir hawliau datblygu a ganiateir mewn dogfen gyfreithiol o'r enw 'Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995'. Yn hyn ceir y rheolau a'r cyfyngiadau ar ddatblygiadau lle nad oes angen caniatâd cynllunio. Gallwch weld Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995 trwy glicio yma.