Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Eglurhad o eiriau a thermau cynllunio

Pwrpas yr adran hon yw eich helpu chi i ddeall y geiriau a'r termau a ddefnyddir ar y wefan yma. Ni ddylech ystyried bod y wybodaeth isod yn ffynhonnell o ddiffiniadau cyfreithiol, nac ychwaith yn ddatganiad nac yn ddehongliad o gyfraith cynllunio.

Adeilad rhestredig - Adeilad sy'n cael ei ddiogelu rhag datblygiadau oherwgydd ei ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïaeth arbennig. Dylai awdurdod cynllunio lleol feddu ar restr o adeiladau rhestredig yn ei ardal, a sicrhau bod y rhestr honno ar gael i'r cyhoedd.

Adfocatiaeth - Rhoi cefnogaeth i achos neu i ddadl. Mewn cynllunio, darperir adfocatiaeth gan fargyfreithiwr neu gyfreithiwr.

Adnau / adneuo - Y cyfnod o ymgynghori cyhoeddus sy'n digwydd unwaith y mae awdurdod cynllunio lleol wedi paratoi ei gynllun datblygu bwriedig. Y 'Cynllun Adneuo'yw'r ddogfen a edrychir arni gan Arolygydd yrYmchwiliad, yn ogystal â'r sylwadau a wnaed ar y cynllun gan bobl eraill, grwpiau a sefydliadau.

Adolygiad Barnwrol - Pan fo'r Uchel Lys yn edrych a yw'r penderfyniad a wnaed gan awdurdod lleol yn rhesymol. Defnyddir Adolygiad Barnwrol i brofi rhai penderfyniadau cynllunio.

Adroddiad Monitro Blynyddol - Adroddiad a roddir i Lywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn sy'n dangos y cynnydd a wnaed gyferbyn â'r targedau a osodwyd i baratoi ac adolygu cynlluniau datblygu.

Adroddiad pwyllgor / adroddiad i bwyllgor - Cyn i gais fynd i bwyllgor cynllunio, mae'r swyddog sy'n delio gyda'r cais yn ysgrifennu adroddiad i egluro'r materion. Mae'n disgrifio ymateb y cyhoedd i'r cais fel rheol, mae'n darparu dadansoddiad o'r materion sydd a wnelo â'r cais, ac mae'n argymell caniatáu neu wrthod. Awgrymir amodau, neu resymau dros wrthod mewn adroddiad pwyllgor / adroddiad i bwyllgor fel rheol.

Aelodau / Aelodau Etholedig - Pobl wedi'i hethol fel gwleidyddion lleol i helpu cynghorau i wneud penderfyniadau. Mae aelodau'n mynychu cyfarfodydd y cyngor, ac yn aml yn'eistedd'ar bwyllgorau.

Amaethyddiaeth / tir amaethyddol - Tir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, ac ar gyfer masnach neu fusnes ffermio. Nid yw'n cynnwys tai na gerddi, na thir a ddefnyddir ar gyfer ffermio pysgod.

Amodau - Fe'i rhoddir ynghlwm i ganiatâd cynllunio. Amodau sy'n rheoli sut y dylai gwahanol rannau o ddatblygiad gael ei gyflawni. Gellir defnyddio amodau i reoli nifer o bethau - a dim ond ychydig o enghreifftiau yw deunyddiau adeiladu, tirlunio a mynediad.

Apêl / apeliadau / apelydd - Gall ymgeisydd am ganiatâd cynllunio apelio yn erbyn penderfyniad (gwrthodiad i roi caniatâd fel rheol). Gellir gwneud apeliadau hefyd os nad yw awdurdod cynllunio yn penderfynu cais o fewn amser penodedig, ac am resymau eraill. Y person sy'n gwneud yr apêl yw'r apelydd. Penderfynir apeliadau gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Archwilio / archwiliad - Mae Arolygydd annibynnol yn archwilio'r Cynllun Datblygu Lleol i weld a yw'n 'gadarn'. Wrth archwilio'r cynllun, mae'r Arolygydd yn ystyried sylwadau ysgrifenedig sydd a wnelo â'r cynllun adneuo, yn ogystal â sesiynau lle rhoddir cyfle i bobl siarad (rhoi tystiolaeth) un ai o blaid (cefnogi) neu yn erbyn (gwrthwynebu) y polisïau arfaethedig.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - Ardal a gaiff ei chydnabod yn gyfreithiol fel un o bwys cenedlaethol o achos gwerth arbennig y dirwedd.

Ardaloedd cadwraeth - Ardaloedd cadwraeth yw rhannau o bentrefi neu drefi sy'n arbennig oherwydd eu pensaernïaeth neu eu hanes. Mae awdurdodau cynllunio lleol yn clustnodi ardaloedd cadwraeth i warchod neu wella eu rhinweddau arbennig. Disgwylir gwell safon o ddyluniad yn yr ardal, ac fe reolir unrhyw waith dymchwel adeiladau neu waith torri coed aeddfed i lawr.

Arfarniad o Gynaladwyedd - Proses sy'n edrych a yw polisïau mewn cynllun datblygu yn gynaladwy. Mae hyn yn golygu meddwl am effeithiau'r cynllun ar yr amgylchedd, ar y gymdeithas ac ar yr economi. Mae'n aml yn cael ei gynnal fel proses ar y cyd gydag Asesiad Amgylcheddol Strategol. Gall y cyhoedd wneud sylwadau ar broses y Arfarniad o Gynaladwyedd, sy'n digwydd fel rhan o waith paratoi'r cynllun datblygu.

Argymhelliad - Mae swyddog cynllunio yn gwneud argymhelliad i'r pwyllgor cynllunio. Caiff ei nodi tua diwedd yr adroddiad pwyllgor a wnaed ar y cais cynllunio. Barn broffesiynol y swyddog cynllunio yw'r argymhelliad, ond nid yw'n rhaid i'r pwyllgor dderbyn y penderfyniad a argymhellir. Fel rheol mae'r argymhellion yn ymwneud â gwrthod, cymeradwyo, neu ohirio.

Arolygiaeth Gynllunio - Asiantaeth annibynnol sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth y Cynulliad. Mae'n gyfrifol am brosesu apeliadau cynllunio a gorfodaeth, ac mae'n cynnal ymchwiliadau i gynlluniau datblygu lleol. Mae hefyd yn ymdrin ag apeliadau adeiladau rhestredig a hysbysebion, yn ogystal ag adrodd am geisiadau sy'n cael eu 'galw i mewn' gan y Cynulliad.

Arolygydd / Arolygydd Cynllunio - Cynllunydd profiadol wedi'i benodi gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae'r Arolygydd yn gwneud penderfyniadau cynllunio annibynnol ar ran Llywodraeth y Cynulliad. Mae Arolygwyr yn ystyried achosion apêl, ac yn profi pa mor 'gadarn' yw'r cynlluniau datblygu pan fyddant yn cael eu harchwilio. Maent hefyd yn gwneud penderfyniadau mewn ymchwiliadau cyhoeddus i gynigion mwy. Mae Arolygwyr yn ysgrifennu adroddiadau sy'n rhoi ystyriaeth i'r holl dystiolaeth gynllunio, ac yn gwneud penderfyniadau ar achosion.

Arweiniad cynllunio atodol - Arweiniad manwl sy'n cael ei baratoi gan yr awdurdod cynllunio lleol. Fel arfer, mae'n ymdrin â materion cynllunio penodol. Mae'n bosibl iddo ymdrin â themâu megis dylunio a thirlunio, neu ganolbwyntio ar ardal benodol. Mae'n aml yn cyflwyno manylion pellach ar bolisïau a chynlluniau sy'n ymddangos mewn cynllun datblygu. Nid oes angen archwilio'r arweiniad hwn fel sy'n rhaid ei wneud â chynllun datblygu, ond rhaid iddo gydymffurfio â'r cynllun datblygu a pholisïau cenedlaethol.

Asesiad Amgylcheddol Strategol - Mae angen asesu cynlluniau datblygu a mathau penodol eraill o gynlluniau er mwyn gweld sut y byddant yn effeithio ar yr amgylchedd. Mae'r asesiad yn broses sy'n digwydd fel rhan o wneud y cynllun. Mae nifer o gyfnodau allweddol yn rhan o'r asesiad – paratoi adroddiad amgylcheddol, edrych ar y dewisiadau amgen, cyflawni ymgynghoriadau, a dangos bod yr asesiad wedi cael effaith ar y cynllun terfynol. Cyfunir yr asesiad gydag Arfarniad o Gynaladwyedd fel rheol, sy'n ystyried effeithiau cymdeithasol ac economaidd, yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol.

Asesiad o'r effaith amgylcheddol - Mae'n rhaid cael asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gyfer rhai mathau o ddatblygiad, sef y cynlluniau mwy fel rheol. Bydd rhaid i ymgeiswyr baratoi 'datganiad amgylcheddol' i'w gyflwyno â'r cais cynllunio. Mae'r datganiad yn ystyried effeithiau tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd. Mae hefyd yn edrych ar ffyrdd o leihau'r effeithiau hynny. Fe'i defnyddir i helpu i wneud penderfyniad ar y cais cynllunio.

Asiant - Y person sy'n paratoi ac yn cyflwyno cais cynllunio. Ymgynghorydd cynllunio neu bensaer yn aml.

Asiantaeth yr Amgylchedd - Corff y llywodraeth sy'n gyfrifol am ddiogelu'r amgylchedd rhag llygredd. Mae'n rheoli gweithgareddau sy'n trin neu'n cynhyrchu gwastraff, ac yn darparu gwybodaeth ar faterion rheoli gwastraff. Mae hefyd yn ymdrin â diogelu rhag llifogydd.

Asiantaethau'r Llywodraeth - Sefydliadau a all wneud penderfyniadau ar ran y llywodraeth, a chynghori'r llywodraeth o fewn maes eu cyfrifoldebau.

Atodlen o adroddiadau - Fe'i gelwir hefyd yn rhaglen y pwyllgor cynllunio. Cesglir holl adroddiadau achos y swyddogion i'w hystyried mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio fel un ddogfen. Mae'r rhan fwyaf o'r awdurdodau cynllunio yn rhoi'r rhaglen ar gael i'r cyhoedd gael golwg arni ychydig ddiwrnodiau cyn y cyfarfod.

Awdurdod cynllunio lleol - Yr awdurdod neu'r cyngor lleol sy'n gyfrifol am baratoi cynlluniau ac am wneud penderfyniadau cynllunio. Yng Nghymru, mae yna 25 awdurdod cynllunio, gan gynnwys y tri Pharc Cenedlaethol. Mae'r awdurdodau cynllunio hefyd yn ymdrin â materion gwastraff a mwynau.

Awdurdod priffyrdd - Yr adran sy'n gyfrifol am gynnal a chadw ffyrdd cyhoeddus a'r ffyrdd mynediad sy'n arwain atynt, ynghyd â phalmentydd ac ymylon ffordd.

Buddiol - Camau gweithredu y dylid eu cymryd am resymau ymarferol, yn hytrach na rhai moesol.

Cadernid - Profir Cynlluniau Datblygu Lleol gan Arolygydd yn yr archwiliad i weld a ydynt yn gadarn. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch beth mae'n ei olygu bod cynllun yn gadarn ar wefannau'r Arolygiaeth Gynllunio a'r Porth Cynllunio.

Cadwraeth - Amddiffyn rhywbeth rhag niwed neu ddifrod, a'i wella os ydi hynny'n bosibl. Mewn cynllunio, fel rheol mae cadwraeth yn ymwneud â thirwedd neu amgylchedd arbennig, neu fe all fod yn adeilad neu'n rhan o dref.

Cadwraeth natur - Gwarchod ardaloedd a rhywogaethau bywyd gwyllt trwy ddulliau rheoli gofalus. Creu cyfleoedd i natur ffynnu, yn aml trwy gynnwys y cymunedau sy'n mwynhau ardaloedd naturiol a bywyd gwyllt.

Cais amlinellol - Gellir cyflwyno Ceisiadau Cynllunio ar ffurf amlinellol. Fe'i defnyddir i ddarganfod a yw datblygiad ar y safle yn dderbyniol mewn egwyddor. Os rhoddir caniatâd cynllunio amlinellol i gynnig, bydd rhaid cymeradwyo manylion y datblygiad yn ddiweddarach. Fe'i defnyddir ar gyfer ceisiadau mwy yn unig fel arfer.

Cais llawn - Cais cynllunio â holl fanylion y cynnig datblygu. Cyfeirir ato weithiau fel cais manwl, ac fe ellir rhoi caniatâd cynllunio llawn ar ei gyfer. Ni chedwir unrhyw faterion yn ôl i'w trafod a'u caniatáu yn ddiweddarach. (gweler 'caniatâd amlinellol').

Camweinyddiaeth - Rhywbeth sydd wedi digwydd nad yw'n cydymffurfio â'r gweithdrefnau priodol.

Caniatâd adeilad rhestredig - Hanfodol os yw rhywun yn bwriadu dymchwel neu rannol ddymchwel adeilad rhestredig. Mae hefyd ei angen i addasu neu ymestyn adeilad rhestredig, lle byddai'r gwaith yn effeithio ar gymeriad neu ddiddordeb arbennig yr adeilad. Mae hefyd angen cael caniatâd ar gyfer unrhyw waith i adeiladau eraill ar dir adeilad rhestredig.

Caniatâd cynllunio - Cymeradwyaeth ffurfiol gan awdurdod cynllunio lleol fel bod datblygiad arfaethedig yn gallu mynd rhagddo. Yn aml, mae amodau ynghlwm wrth y caniatâd hwn. Fel rheol, rhaid dechrau'r datblygiad o fewn cyfnod penodol o ddyddiad y rhoddir y caniatâd. Gall caniatâd cynllunio fod yn llawn, neu amlinellol.

Caniatâd tybiedig - Nid oes angen cais a chaniatâd cynllunio ffurfiol.

Caniatâd ymlaen llaw - Mae modd cyflwyno cais i'r awdurdod cynllunio lleol i weld a oes angen caniatâd cynllunio, fel arfer ar gyfer mân ddatblygiad.

Carthffos / carthffosiaeth / carthion - dŵr gwastraff sy'n cael ei gludo gan bibellau carthion i waith trin carthion.

Clustnodwyd (yng nghyd-destun tir) - Tir i'w ddefnyddio mewn ffordd benodol (tai, adwerthu, man agored, ayb), mewn cynllun datblygu fel rheol.

Cod ymddygiad - Rheolau sy'n sicrhau fod penderfyniadau cynllunio a phenderfyniadau eraill yn cael eu gwneud mewn ffordd deg ac agored. Mae aelodau pwyllgorau cynllunio yn cael eu llywodraethu ganddynt fel rheol.

Cofnodion - Cofnod ysgrifenedig o'r hyn a ddywedwyd ac y cytunwyd arno yn ystod cyfarfod.

Cofrestredig - Unwaith y bydd awdurdod cynllunio lleol yn derbyn cais cynllunio, bydd yn cael ei wirio i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Yna caiff ei gofrestru – ac fe fydd yn gais cofrestredig.

Croesholi - Y cyfle i holi tyst sydd eisoes wedi rhoi tystiolaeth ar gyfer yr ochr arall i'r ddadl. Gwahoddir bargyfreithiwr neu gyfreithiwr cynllunio i wneud hyn gan Arolygydd yn ystod ymchwiliad cyhoeddus mewn apêl mawr, er enghraifft.

Cwmni cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus - Cwmni sy'n cynnig gwasanaeth neu gynnyrch a ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae'r enghreifftiau yn cynnwys cwmnïau cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus fel dŵr, trydan, nwy a ffôn.

Cwrtil - Y darn o dir sydd ynghlwm i dŷ, sy'n ffurfio lloc o dir amgaeedig gydag o. Fel rheol mae'n cynnwys tir ac adeiladau sy'n gwneud eiddo, fel yr amlinellir gan y ffin. Dangosir cwrtil tŷ ar y gweithredoedd fel rheol.

Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Cyfarwyddyd a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n golygu fod gwaith na fyddai angen caniatâd cynllunio fel rheol, ei angen o nawr ym maes y Cyfarwyddyd.

Cyflwyno - Adneuo. Rhoi rhywbeth ger bron.

Cyfranogi - Cymryd rhan mewn rhywbeth. Ym maes cynllunio, defnyddir, 'cyfranogiad cyhoeddus' i ddisgrifio'r broses o ofyn i'r cyhoedd fod yn rhan o'r broses gynllunio. Fe all fod yn ymwneud â pharatoi cynllun datblygu lleol, neu feddwl am sut y dylid datblygu'r ardal yn y dyfodol.

Cyfrinachol - Preifat. Ni all y cyhoedd ei weld, fel rheol oherwydd gallai buddiannau pobl neu fusnes gael ei niweidio.

Cylchlythyrau - Wedi'i ysgrifennu gan y Llywodraeth i egluro rhai meysydd y gyfraith ac arferion cynllunio mewn mwy o fanylder. Maent yn debyg i Nodiadau Cyngor Technegol.

Cymodi - Dod â gwahanol bobl ynghyd er mwyn dod i gytundeb er lles pawb.

Cymorth cyfreithiol - Cyngor a gwybodaeth gyfreithiol fforddiadwy neu yn rhad ac am ddim gan gyfreithwyr cymwys.

Cymorth Cynllunio Cymru - Elusen yw Cymorth Cynllunio Cymru sy'n darparu cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim, i bobl a grwpiau sy'n methu fforddio talu ymgynghorydd cynllunio. Mae'n annog pobl i gymryd rhan yn y system gynllunio i wella'r amgylchedd lleol.

Cymuned / cymunedau - Term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio'r bobl sy'n byw gyda'i gilydd mewn cymdogaeth, pentref, comiwn, pentreflan neu ganolfan poblogaeth. Gall cymunedau fod yn seiliedig ar grefydd, set o ddiddordebau, proffesiwn, ayb.

Cynghorau cymuned a thref - Y corff gweinyddol mewn ward, tref neu ardal gymunedol. Ymgynghorir â hwy ynghylch materion cynllunio fel rheol. Fe'i gelwir yn blwyfi yn Lloegr.

Cynghorwyr sir - Gwleidydd a etholir yn lleol. Adwaenir fel Aelod o'r awdurdod yn aml.

Cynllun Cynnwys Cymunedau - Mae'n gosod patrwm gweithredu'r awdurdod cynllunio lleol ac amserlen ar gyfer cynnwys / ymglymu'r cymunedau lleol yn y gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae'n rhan o'r Cytundeb Cyflawni a gyflwynir i Lywodraeth y Cynulliad ar ddechrau'r gwaith o baratoi'r cynllun. Mae'n rhaid i gyrff a grwpiau penodol gael cyfle i roi sylwadau ar Gynllun Cynnwys Cymunedau.

Cynllun datblygu - Y ddogfen sy'n defnyddio geiriau a mapiau i osod allan polisïau a chynigion yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygiad yn y dyfodol yn ei ardal gynllunio. Fel rheol mae'n edrych tua'r pymtheg mlynedd sydd i ddod, mae'n cynnwys polisïau ar gyfer safleoedd penodol ac ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad. Mae cynlluniau datblygu yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Unedol, Cynlluniau Fframwaith a Chynlluniau Lleol. Bydd yr holl awdurdodau cynllunio yng Nghymru yn symud tuag at y system Cynllun Datblygu Lleol yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Cynllun Datblygu Lleol - Cynllun ar ei newydd wedd sy'n raddol gymryd lle'r Cynlluniau Datblygu Unedol. Mae pob awdurdod cynllunio yng Nghymru wrthi, neu ar fin cychwyn, paratoi cynllun o'r fath. Hwn fydd y cynllun datblygu statudol ar gyfer yr awdurdod cynllunio lleol. Fe ddylai gynnwys gweledigaeth a strategaeth eang, yn ogystal â pholisïau ar gyfer gwahanol ardaloedd a mathau o ddatblygiadau. Bydd yn pennu tir sy'n addas ar gyfer datblygiadau newydd, ac yn nodi cynigion ar gyfer yr ardaloedd allweddol a fydd yn cael eu newid a'u diogelu. Fe ddangosir y polisïau a'r tir datblygu ar fap, a elwir yn Fap Cynigion.

Cynllun Datblygu Unedol - Cyfeirir yn aml ato fel 'CDU', ac mae'n berthnasol i ardal yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chyfanrwydd. Bydd yn cymryd lle'r hen gynlluniau fframwaith a chynlluniau lleol. Mae'n cynnwys polisïau ar gyfer ardal gyfan y cynllun, ac yn clustnodi tir ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad. Mae oddeutu hanner yr awdurdodau cynllunio yng Nghymru eisoes wedi paratoi cynllun fel hwn. Unwaith y bydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol, hwn fydd y cynllun datblygu ar gyfer eu hardaloedd. Bydd y Cynlluniau Datblygu Lleol ar eu newydd wedd yn raddol gymryd lle'r Cynlluniau Datblygu Unedol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Cynllun Lleol - Cynllun datblygu yn yr hen ddull sy'n nodi polisïau a chynigion manwl ar gyfer datblygu a defnyddio tir. Mewn rhai awdurdodau, mae'r cynlluniau lleol yn dal i gael eu defnyddio i arwain penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Cynllun Fframwaith - Cynllun datblygu ar yr hen ffurf. Mae'n nodi beth yw polisïau'r cynllun strategol ar gyfer ardaloedd sirol. Dyma oedd sail polisïau mwy manwl cynlluniau lleol a chynlluniau ardal. Mae cynlluniau fframwaith yn parhau'n weithredol mewn rhai ardaloedd, ond bydd Cynlluniau Datblygu Unedol neu Gynllun Datblygu Lleol ar eu newydd wedd yn eu disodli.

Cynlluniau Rheoli'r Parc Cenedlaethol - Cynllun lefel uchel sy'n taro llygad cyffredinol dros faes eang. Mae'n nodi gweledigaeth pob Parc, ac yn cynnwys cynlluniau gweithredu i arwain gweithgareddau rheoli a gwariant yn y dyfodol. Nid yw'n annhebyg i'r Strategaeth Gymunedol.

Cynnig / cynnig datblygu - Datblygiad neu weithgaredd y mae rhywun yn bwriadu iddo ddigwydd yn y dyfodol. Gall cynigion datblygu ddod gan ddatblygwr preifat, awdurdodau lleol, mathau eraill o asiantaethau, neu unigolion preifat.

Cynrychiolydd - Rhywun sy'n cael siarad ar ran sefydliad, grŵp neu unigolyn.

Cynsail - Rhywbeth sy'n sefydlu patrwm, a gall ddechrau cyfres o bethau tebyg. Er enghraifft, rhoddir caniatâd cynllunio mewn ardal gadwraeth i roi ffenestri dwbl ffrâm blastig yn lle ffenestri traddodiadol ffrâm bren. Byddai'r penderfyniad yn gosod cynsail ddrwg, ac yn ei gwneud hi'n anodd gwrthod ceisiadau cyffelyb.

Cynulliad / Aelodau'r Cynulliad - Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n cynnwys aelodau etholedig ac yn ethol Llywodraeth y Cynulliad.

Cyrff ymgynghorol - Sefydliadau neu adrannau y mae angen ymgynghori â nhw ynghylch ceisiadau cynllunio neu faterion sydd a wnelo'r cynllun datblygu.

Cytundeb Cyflawni - Dogfen sy'n gosod amserlen yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygu ei Gynllun Datblygu Lleol. Hefyd, mae'n cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau, sy'n gosod allan sut y bydd yr awdurdod yn ymglymu pobl, grwpiau a sefydliadau ar wahanol adegau o wneud y cynllun. Mae'n rhaid cytuno ar y Cytundeb Cyflawni gyda Llywodraeth y Cynulliad.

Datblygiad - Fe'i diffinnir fel 'cyflawni gweithrediadau adeiladu, peirianyddu, chwarelu neu weithrediadau eraill, mewn, ar neu o dan dir, neu wneud unrhyw newid materol i ddefnydd unrhyw adeilad neu dir arall.'

Datblygiad a ganiateir / hawliau datblygiad a ganiateir - Mae yna rai mathau o ddatblygiad nad oes angen cael caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith bach, a phethau na fyddant yn cael effaith sylweddol ar bobl eraill. Mae Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn nodi'r pethau y gellir eu gwneud heb wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Datblygiad amaethyddol a ganiateir - Pethau a ellir eu gwneud ar dir amaethyddol heb fod angen caniatâd cynllunio.

Datblygiad arfaethedig - gweler 'Cynnig datblygu'

Datblygiad cynaladwy - Gofalu am y byd trwy ddefnyddio'r adnoddau sy'n deillio ohono'n gall. Neu, 'ddatblygiad sy'n cwrdd â'n hanghenion ni heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau yn y dyfodol i gwrdd â'u hanghenion eu hunain'. Mae'r system gynllunio yn bwysig ar gyfer datblygiad cynaladwy - gall gyflwyno ffyrdd mwy cynaladwy o fyw a gweithio. Gall hefyd annog mathau newydd o ddatblygiadau sy'n defnyddio llai o ynni.

Datganiad amgylcheddol - Mae'n edrych ar effaith amgylcheddol debygol y datblygiad arfaethedig. Mae'n cynnwys canlyniadau'r asesiad o'r effaith amgylcheddol, a llawer o wybodaeth gefndirol i'w gefnogi. Dylai'r datganiad gynnwys disgrifiad o'r datblygiad, camau i'w cymryd i osgoi niweidio'r amgylchedd, a'r prif effeithiau tebygol ar yr amgylchedd.

Deddf Iawnderau Dynol - Mae'r Ddeddf Iawnderau Dynol yn gyfraith sy'n diogelu iawnderau dynol. Iawnderau dynol yw rhyddid a gwerthoedd sylfaenol y mae gan bawb hawl iddynt. Mae hefyd yn cyfyngu ar rai hawliau'r unigolyn er mwyn diogelu hawliau pobl eraill a'r gymuned ehangach.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth - Mae'n rhoi hawl gyfreithiol i unrhyw un ofyn am, a chael gweld y rhan fwyaf o'r wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus.

Diddymu - Canslo. Tynnu yn nôl.

Dosbarth defnydd - Mae'r gyfraith gynllunio yn rhannu'r gwahanol ffyrdd o ddefnyddio tir ac adeiladau mewn gwahanol ddosbarthiadau defnydd. Nid oes angen cael caniatâd cynllunio i newid defnydd darn o dir, neu adeilad o un defnydd i un arall o fewn yr un dosbarth defnydd. Fodd bynnag, fel rheol bydd angen caniatâd cynllunio i newid defnydd o un dosbarth defnydd i un arall.

Draeniad - Y dull y mae dŵr (dŵr gwastraff a dŵr wyneb) yn symud o gwmpas ac oddi ar safle. Yn aml mae rhwydwaith ar wahân o bibellau yn cario dŵr gwastraff a dŵr wyneb oddi ar safle. Mae dŵr wyneb yn cael ei gyfeirio at nentydd, afonydd neu lynnoedd. Bydd dŵr gwastraff yn cael ei drin cyn cael ei rhyddhau fel rheol.

Draenio dŵr budr - Mae draenio dŵr budr yn golygu cael gwared ar garthion, neu ddŵr gwastraff o doiledau a ffynonellau eraill o ddŵr budr. Mae draeniau dan ddaear yn cludo dŵr gwastraff o adeiladau i waith trin carthion.

Drafft - Dogfen sydd wedi cael ei dechrau, ond sydd heb gael ei chwblhau eto. Gellir gofyn barn y cyhoedd ynghylch y cynllun drafft (a adwaenir fel ymgynghori gyda'r cyhoedd). Gall adroddiad i bwyllgor fod ar ffurf drafft.

Dwysedd - Fe'i defnyddir fel rheol i ddisgrifio datblygiad tai. Mae dwysedd yn disgrifio'r nifer o dai mewn ardal (acer neu hectar fel rheol). Nifer yr ystafelloedd y gellir byw ynddynt yw un ffordd arall o fesur dwysedd.

Dyluniad / dylunio - Sy'n dangos beth yw edrychiad a 'theimlad' yr adeilad, y tu mewn a'r tu allan. Mae'n cynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd, pa mor effeithlon yw o ran ynni, a thirlunio.

Galw i mewn / ceisiadau a alwyd i mewn - Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bwerau i alw ceisiadau cynllunio 'i mewn'. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n gwneud y penderfyniad, ac nid yr awdurdod cynllunio lleol. Nid ydynt yn galw cais i mewn yn aml, dim ond ychydig o weithiau mewn blwyddyn.

Gohirio - Peidio â phenderfynu ar y diwrnod neu ystyried y mater ar ddyddiad arall.

Gorfodaeth / rhybudd / hysbysiad gorfodaeth - Mae awdurdod cynllunio lleol yn defnyddio ei bwerau gorfodaeth i sicrhau bod yr holl delerau ac amodau a wnaed mewn penderfyniad cynllunio yn cael eu cyflawni. Defnyddir gorfodaeth i reoli datblygiad sydd heb gael caniatâd cynllunio, ond sydd angen hynny. Mae rhybudd gorfodaeth yn dweud beth sydd angen cael ei wneud i wneud rhywbeth yn iawn, neu i reoli gweithgaredd sy heb ganiatâd cynllunio.

Gwrandawiad - Gwrandawiad apêl gynllunio a gynhelir mewn modd strwythuredig, ond nid yw mor ffurfiol ag ymchwiliad cyhoeddus.

Gwiriad - Datblygiad arfaethedig sydd ddim yn cyd-fynd â pholisïau sydd yn y cynllun datblygu a fabwysiadwyd.

Gwrthwynebiad - Geiriau, rhai ysgrifenedig fel rheol, sy'n rhoi rhesymau dros wrthwynebu polisi neu gynnig i ddatblygu. Gall pobl wrthwynebu cais cynllunio neu rywbeth a gynhwysir mewn cynllun datblygu neu bolisi drafft, neu mewn apêl.

Hysbysu - Rhoi wybod am rywbeth.

Llygredd - Rhywbeth sy'n niweidio'r amgylchedd neu iechyd dynol. Mae'n cynnwys tir llygredig, nwyon/mwg o ffatrïoedd, mygdarth traffig, ysbwriel a gwastraff gwenwynig.

Llys Iawnderau Dynol - Mae Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn clywed cwynion gan wledydd Ewropeaidd ynghylch torri rheolau hawliau dynol.

Llythyr penderfynu - Y llythyr ffurfiol sy'n nodi'r penderfyniad a wnaed ar gais cynllunio. Mae'r llythyr yn cynnwys amodau neu resymau dros wrthod hefyd.

Llywodraeth Cynulliad Cymru - Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r llywodraeth genedlaethol yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am y system gynllunio yng Nghymru, ac yn paratoi polisïau cynllunio cenedlaethol.

Mabwysiedig / cynllun datblygu a fabwysiadwyd - Mae'r cynllun datblygu wedi'i gwblhau, fe gytunwyd arno, ac mae ganddo statws llawn. Hwn yw cynllun datblygu'r awdurdod lleol a gadarnhawyd ac a fabwysiadwyd.

Materion a gadwyd yn ôl - Pethau sy'n ymwneud â datblygiad arfaethedig a fydd angen eu penderfynu ar ddyddiad diweddarach. Er enghraifft, caiff cais amlinellol am dai ar safle ei gymeradwyo - fodd bynnag, mae angen rhagor o fanylion am ddyluniad bob tŷ, y deunyddiau a ddefnyddir, a'r tirlunio. Mae'r rhain yn faterion a gadwyd yn ôl, gan eu bod yn dal i fod angen eu cymeradwyo. Mwynder gweledol - Sut y mae ymddangosiad ardal yn cyfrannu at fwynhad pobl ohoni. Mae ardal â llawer o fwynderau gweledol yn peri pleser ac yn ddymunol i'r llygad.

Mynediad - Y dull o fynd i mewn ac allan o safle oddi ar y briffordd.

Newid / newidiadau - Newid neu addasu rhywbeth. Gellir newid / addasu cynllun datblygu neu gais cynllunio.

Newid defnydd - Ystyrir bod newid defnydd yr adeilad, neu blot o dir, o un dosbarth defnydd i dosbarth defnydd arall fel datblygiad. Felly bydd angen caniatâd cynllunio.

Nodiadau Cyngor Technegol - Llywodraeth y Cynulliad sy'n paratoi'r Nodiadau Cyngor Technegol, ac maent yn cyflwyno mwy o fanylion am bolisïau cynllunio cenedlaethol. Maent yn ymdrin â meysydd cynllunio penodol, megis tai, perygl llifogydd, neu ddiogelu bywyd gwyllt. Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn y Nodiadau yn cael ei defnyddio gan y cyhoedd, cynllunwyr a datblygwyr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ryw faes cynllunio penodol.

Nodiadau Cyngor Technegol ar Fwynau - Darparu arweiniad i awdurdodau cynllunio lleol ar sut i ymdrin â mwynau. Mae materion mwynau'n cynnwys chwareli, argaeledd cerrig a thywod, ayb. Fe'i cynhyrchir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Parciau Cenedlaethol - Dynodir y Parciau Cenedlaethol oherwydd eu tirluniau a'u hamgylchedd arbennig. Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer eu hardaloedd. Nod y parciau cenedlaethol yw gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a ffyrdd traddodiadol o fyw a gweithio. Maent hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau'r parciau.

Partneriaeth strategol leol - Yn gyfrifol am ddatblygu Strategaethau Cymunedol. Fel rheol, mae'n cynnwys pobl o sefydliadau allweddol a meysydd diddordeb.

Penderfynu - Mae awdurdod cynllunio lleol yn 'penderfynu' cais cynllunio wrth wneud penderfyniad ynghylch a ddylai roi caniatâd cynllunio. Mae'n 'penderfynu' a yw datblygiad arfaethedig angen caniatâd cynllunio hefyd.

Perthnasol - Os yw rhywbeth yn berthnasol, mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddo cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Ym maes cynllunio, mae yna ystyriaethau perthnasol yn ogystal â rhai amherthnasol.

'Pobl, Lleoedd, Dyfodol – Cynllun Gofodol Cymru' - Cynllun lefel uchel iawn, sy'n cael ei baratoi gan Lywodraeth y Cynulliad ac sy'n berthnasol i Gymru gyfan. Mae'n nodi fframwaith gyffredinol sy'n ymdrin â maes eang, i arwain datblygiadau a gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Nid cynllun defnydd tir yn unig mohono – mae'n cynnwys meysydd eraill megis cludiant, addysg a lles. Mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Cynllun Gofodol wrth baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Polisi / polisïau - Mae cynlluniau datblygu fel arfer yn cynnwys polisïau cynllunio. Cyfres o eiriau sy'n disgrifio'r hyn sy'n dderbyniol yn nhermau cynllunio yw polisi, yn ogystal â'r hyn sy'n annerbyniol. Mae'n bosibl cael polisïau ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad, yn ogystal â pholisïau sy'n berthnasol mewn meysydd penodol yn unig. Gellir gwneud penderfyniad ar geisiadau cynllunio ar ôl rhoi ystyriaeth i nifer o wahanol bolisïau.

'Polisi Cynllunio Cymru' - Mae'n nodi'r fframwaith polisi cenedlaethol ar gyfer cynllunio defnydd tir yng Nghymru, ac mae'n cynnwys nifer o wahanol feysydd cynllunio. Mae'n cael ei baratoi gan Lywodraeth y Cynulliad er mwyn rhoi dealltwriaeth glir i awdurdodau cynllunio lleol ac eraill ynglun â sut y dylai'r system weithio.

'Polisi Cynllunio Mwynau Cymru' - Mae'n nodi polisïau a chyngor y llywodraeth ar faterion cynllunio mwynau. Fe'i cynhyrchir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Polisïau'r cynllun datblygu - Mae polisïau wedi eu cynnwys yn y cynllun datblygu fel rheol. Maent yn gosod allan sut y dylai'r mathau gwahanol o ddatblygiad a defnydd tir gael eu rheoli. Gall polisïau fod ar gyfer ardal fechan, ar gyfer math o ddatblygiad, neu fe allant fod yn berthnasol i holl ardal y cynllun.

Priffordd - Ffordd sy'n cael ei chynnal a'i chadw ag arian cyhoeddus, ynghyd ag unrhyw lwybrau troed ac ymylon ffyrdd.

Pwerau dirprwyedig - Pwer a roddir i swyddogion cynllunio penodol gan gynghorwyr lleol etholedig. Mae pwerau dirprwyedig yn golygu y gall swyddogion wneud penderfyniadau ar ran y cyngor ar rai materion cynllunio.

Pwyllgor / pwyllgor cynllunio - Grŵp o bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar faterion cynllunio. Mae'r pwyllgor yn rhan o'r awdurdod cynllunio lleol, a chynghorwyr etholedig (neu aelodau) sydd arno.

Rhaglen - Rhestr o eitemau busnes i'w hystyried mewn cyfarfod. Rhaglen neu drefnlen.

Rheolaeth / rheoli datblygu - Y broses a ddefnyddir gan awdurdod cynllunio lleol i dderbyn ceisiadau cynllunio, ystyried eu rhinweddau, ac i benderfynu arnynt. Mae penderfyniadau rheolaeth datblygu yn seiliedig ar y cynllun datblygu ac ystyriaethau materol eraill fel rheol. Yn aml, bydd gan awdurdod adran neu adain rheoli datblygu ar wahân.

Rheoliadau adeiladu - Rheoliadau adeiladu sy'n gosod y safonau ar gyfer dyluniad ac adeiladwaith adeiladau. Fe'i cynllunnir i gadw pobl sydd i mewn ac yng nghyffiniau adeiladau yn ddiogel ac iach. Maent yn delio gyda mesurau arbed ynni a darparu mynediad i'r anabl i adeiladau.

Rhybudd atal - Rhybudd atal a gyflwynir gan awdurdod cynllunio lleol pan mae am atal rhywun rhag gwneud datblygiad neu weithgaredd. Fe'i defnyddir fel rhan o bwerau gorfodaeth.

Siartredig - Yn gymwysedig yn eu proffesiwn. Er enghraifft, cynllunydd siartredig, peiriannydd neu syrfëwr.

Strategaeth graidd - Rhan o gynllun datblygu. Mae'r strategaeth graidd yn gosod allan yn fras iawn sut y bydd ardal yn datblygu yn y dyfodol. Mae'n rhoi fframwaith canolog i gynllun, sy'n galluogi i bolisïau cynllunio mwy manwl gael eu paratoi am feysydd a phynciau penodol.

Strategaeth Gymunedol - Strategaeth lefel uchel y mae awdurdodau unedol yng Nghymru yn gyfrifol am eu llunio yn eu hardaloedd hwy. Mae'n ceisio cydgysylltu'r gwahanol raglenni a'r gweithgareddau sy'n digwydd mewn ardal, er mwyn gwella gwasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus. Mewn Parciau Cenedlaethol, mae Cynllun Rheoli'r Parc Cenedlaethol yn gwneud yr un math o beth.

Sui generis - Gair Lladin sy'n disgrifio defnydd tir, neu adeilad nad yw'n perthyn i ddosbarth defnydd. Mae theatrau, golchdai, ystafelloedd arddangos ceir a gorsafoedd petrol ymhlith yr enghreifftiau o ddefnydd tir sy'n 'sui generis'.

Swyddog monitro - Y sawl sy'n ymdrin â chwynion yn erbyn awdurdod lleol.

Sylwadau - Sylwadau a gyflwynir i awdurdod cynllunio lleol. Gallant gefnogi rhywbeth, neu fe allant wrthwynebu rhywbeth. Gwneir sylwadau yng nghyswllt cais cynllunio, neu bolisi arfaethedig mewn cynllun datblygu ar gyfer ardal.

Sylwadau hwyr - Llythyr i wrthwynebu neu gefnogi cais, sy'n dod i law wedi'r cyfnod ymgynghori cyfreithiol ddod i ben. Weithiau mae hi'n dal yn bosibl rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny.

Sylwadau ysgrifenedig - Datganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys sylwadau, neu ddadl o blaid neu yn erbyn rhywbeth. Y ffordd symlaf o gyflwyno apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio.

Tir llygredig - Tir sydd wedi cael ei lygru neu ei niweidio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd sydd wedi ei wneud yn anaddas ar gyfer datblygiad diogel. Dim ond wedi iddo gael ei lanhau y gall datblygiad ddigwydd (neu ei 'ddadlygru ').

Tirlunio / cynigion tirlunio - Mae'n cynnwys planhigion, coed, llwybrau a strwythurau. Dylid paratoi cynnig tirlunio ar gyfer darnau o dir na fwriedir adeiladu arno. Mae'n aml yn rhan o gais cynllunio, ac fe all gynnwys gosodiad gardd, waliau a ffensys, coed a mannau plannu, a ffyrdd 'caled' a phalmentydd.

Trafodaethau cyn gwneud cais - Trafodaethau sy'n cael eu cynnal cyn cyflwyno cais cynllunio. Fel rheol, trafodaethau rhwng swyddogion cynllunio'r awdurdod lleol a'r sawl sy'n bwriadu datblygu cynnig yw'r rhain. Mae'n bosibl gwella ansawdd cais yn sgîl y trafodaethau hyn, ac ystyrir eu bod yn arfer da fel arfer. Gall y swyddog cynllunio gynghori'r ymgeisydd am rywbeth nad oedd yn ymwybodol ohono cyn hynny, neu wneud sylwadau i helpu gwella'r cynnig.

Trydydd parti - Parti heblaw am yr ymgeisydd â diddordeb yn y cais. Fel arfer, rhywun sy'n cefnogi neu'n gwrthwynebu cais cynllunio yw hwn.

Tŷ annedd - Adeilad hunangynhaliol, neu ran o adeilad, a ddefnyddir ar gyfer dibenion byw ynddo. Fel rheol, mae annedd yn darparu cartref i dyaid / deulu unigol. Gall aneddiadau fod yn dai, byngalos, fflatiau, fflatiau deulawr neu adeiladau fferm wedi'u trosi .

Tystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad arfaethedig - Gall bobl wneud cais i ofyn a yw datblygiad arfaethedig yn gyfreithiol yn nhermau cynllunio. Os ydyw, rhoddir y dystysgrif gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, sy'n golygu na fydd y datblygiad arfaethedig angen caniatâd cynllunio.

Tystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad sy'n bodoli eisoes - Gall pobl wneud cais i ddarganfod a yw datblygiad sy'n bodoli'n barod yn gyfreithiol yn nhermau cynllunio. Os ydyw, fe gyflwynir y dystysgrif gan yr awdurdod cynllunio lleol, sy'n golygu bod y datblygiad sy'n bodoli'n barod yn gyfreithiol ac nad yw angen caniatâd cynllunio.

Ymchwiliad cyhoeddus - Gwrandawiad ffurfiol a gynhelir gan arolygydd cynllunio ynghylch mater cynllunio. Fe all fod ynghylch cynllun datblygu lleol, neu apêl. Gall aelodau o'r cyhoedd fynychu ymchwiliadau cyhoeddus fel sylwebyddion, ac fe allant gael eu gwahodd i roi sylwadau ar fater.

Ymddangosiad - Sut mae rhywbeth yn edrych, neu ei ffurf. Ym maes cynllunio, ymddangosiad y tu allan i adeiladau sydd o bwys fel rheol.

Ymgeisydd - Y person sy'n arwyddo ac yn cyflwyno ffurflenni cais cynllunio. Gall asiant gyflwyno ceisiadau ar gyfer pobl eraill.

Ymgynghori / ymgynghoriad - Gofyn i bobl neu sefydliadau beth maen nhw'n ei feddwl am rywbeth neu'i gilydd. Gofynnir am sylwadau ar fater penodol fel rheol (fel cais cynllunio), neu set o faterion, neu ddogfen drafft (fel cyfranogiad y cyhoedd yn y gwaith o baratoi cynllun). Gall ymgynghori fod ar ffurf ffurfiol neu anffurfiol. Gall gynnwys pawb mewn ardal, neu gasgliad bach o bobl neu grwpiau.

Ymgynghoriad cyhoeddus - Rhoi gwybod i'r cyhoedd am gais cynllunio, neu ynghylch cynlluniau ar gyfer ardal yn y dyfodol. Fel rheol mae'n cynnwys gofyn i bobl wneud sylwadau o fewn cyfyngiad amser. Ystyrir sylwadau cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Ymgynghorydd - Cynllunydd hyfforddedig yw ymgynghorydd cynllunio sy'n gweithio gyda phobl a chwmnïau sy'n gallu fforddio talu am gyngor a help arbenigol. Mae gan ymgynghorwyr brofiad o'r system gynllunio ac maent yn ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft i helpu i gael caniatâd cynllunio neu er mwyn apelio yn erbyn gwrthodiad.

Ystyriaeth berthnasol - Y materion sy'n berthnasol ac y mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud penderfyniad cynllunio. Mae'n rhaid edrych ar yr achos unigol wrth benderfynu a yw
rhywbeth yn 'berthnasol'. Neu mewn geiriau eraill, nid oes rheol bendant. Mae'n rhaid rhoi ystyriaeth i bob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.