Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Polisi cynllunio lleol

Gosodir polisïau cynllunio lleol yn y cynllun datblygu ar gyfer pob un o'r 25 ardal awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru. Os yw eich awdurdod lleol neu eich parc cenedlaethol wedi 'mabwysiadu' (cymeradwyo) cynllun datblygu, dylech wybod am y polisïau ynddo oherwydd maent yn cael effaith ar y penderfyniadau cynllunio yn eich ardal. Mae'n fwy tebygol bod polisi cynllunio cenedlaethol yn berthnasol os yw'r cynigion yn fawr iawn, neu os cymeradwywyd y cynllun datblygu flynyddoedd yn ôl a bod y dyddiad terfynol wedi mynd heibio. Y ddau brif fath o gynllun datblygu yw Cynlluniau Datblygu Unedol a Chynlluniau Datblygu Lleol.

Cynlluniau Datblygu Unedol

Ers 1966 mae'n ofynnol bod pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn paratoi Cynllun Datblygu Unedol (adwaenir fel UDP yn Saesneg). Mae rhai awdurdodau wedi 'mabwysiadu' Cynllun Datblygu Unedol yn barod a bydd y cynllun yn parhau mewn grym nes fydd Cynllun Datblygu Lleol (a adwaenir fel LDP yn Saesneg) ar ddull newydd yn cymryd ei le. Penderfynodd cynghorau eraill atal gwaith ar eu Cynllun Datblygu Unedol cyn ei fabwysiadu ac maent wedi cychwyn gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol. Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun datblygu sydd mewn grym yn eich ardal chi yn ein adran awdurdodau cynllunio lleol.

Cynlluniau Datblygu Lleol

Ers 2004 bu'n rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar ddull newydd. Mae'r CDLl yn fyrrach ac yn fwy cryno na'r Cynllun Datblygu Unedol (CDU) a dylai gymryd llai o amser i'w baratoi. Mae'r CDLl yn gosod cynigion pob awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygiad a defnydd tir yn eu hardal yn y dyfodol. Yn raddol bydd y CDLl yn disodli'r Cynlluniau Datblygu Unedol. Unwaith y cymeradwyir CDLl bydd yn ffurfio sail i benderfyniadau cynllunio'r awdurdod cynllunio lleol. Lle bo’n bosibl, dylai'r CDLl gysylltu ag amcanion y Strategaeth Gymunedol leol neu yn ardaloedd Parciau Cenedlaethol - Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol.

Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn y broses o baratoi eu Cynllun Datblygu Lleol ar hyn o bryd ac maent i gyd mewn mannau gwahanol yn y broses. Gellir defnyddio'r CDLl i benderfynu ar geisiadau cynllunio, hyd yn oed tra mae'n cael ei baratoi, oherwydd mae'n nodi beth yw cynlluniau'r cyngor am ddyfodol yr ardal. Agosaf mae'r Cynllun Datblygu Lleol at gael ei orffen, mwyaf o bwysau fydd ganddo mewn penderfyniadau caniatáu cynllunio.

Mae'r CDLl yn annog mwy o gyfranogiad gan y cyhoedd mewn cynllunio nag a ddigwyddodd gyda'r CDU. Dylai awdurdodau geisio gynnwys eu cymunedau yn ystod y cyfnodau cynnar iawn o gynllunio ac i ymgynghori â'r cyhoedd yn y cyfnodau hwyrach (fel arfer gelwir hyn yn 'ymgynghoriad cyhoeddus'). Amcan hyn yw lleihau anghydweld ynghylch fersiynau drafft o'r cynllun yn bellach ymlaen yn y broses a tawelu meddwl pobl am ble fydd y datblygiad yn debyg o ddigwydd yn eu hardal.

Rhennir y broses paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol i chwe cham penodol. Mae rhai o'r camau hyn, yn enwedig y rhai tua'r cychwyn, wedi eu dylunio i ganiatáu cyfranogiad y cyhoedd. Dengys y diagram isod y camau hyn:

  1. Sail dystiolaeth
  2. Cytundeb Cyflawni
  3. Ymgynghoriad cyn-adneuo
  4. Cynllun Adneuo
  5. Archwiliad
  6. Mabwysiadu

Unwaith y mabwysiedir y cynllun ceir ei fonitro yn flynyddol mewn Adroddiad Monitro Blynyddol. Hefyd bydd adolygiad mawr o'r CDLl bob pedair blynedd. I ddarganfod ble mae eich awdurdod cynllunio lleol chi arni yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer eich ardal, ymwelwch â'n adran awdurdodau cynllunio lleol.


Os ydych am wybod mwy am Gynlluniau Datblygu Lleol, cliciwch ar un o’r dolenni isod:

Cynllunio'ch Cymuned: Llyfryn cyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) (llyfryn ar gyfer y cyhoedd)

Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol (dogfen gyfeiriol ar gyfer cynllunwyr yn paratoi CDLl)