Unwaith y cyhoeddir adroddiad yr Arolygydd, rhaid i'r awdurdod cynllunio 'fabwysiadu' y Cynllun Datblygu Lleol o fewn wyth wythnos. Pan fabwysiedir y Cynllun, bydd yr awdurdod cynllunio yn cyhoeddi 'Datganiad Mabwysiadu' i ddatgan hynny.
Cyfleoedd i gymryd rhan
Gallwch ofyn i gael eich hysbysu pan fabwysiedir y Cynllun. Unwaith y bydd wedi ei fabwysiadu gallwch gael gafael ar y dogfennau canlynol gan eich awdurdod cynllunio am ffi rhesymol.
- Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig
- Datganiad Mabwysiadu
- Adroddiad yr Arolygydd
- Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd
Dylai'r holl ddogfennau hyn fod ar wefan yr awdurdod hefyd ac yn y swyddfeydd cynllunio.
Unwaith y'i mabwysiedir, gall unrhyw un geisio herio'r Cynllun yn yr Uchel Lys ond rhaid cyflwyno’r sialens o fewn chwech wythnos i'r mabwysiadu.