Amcan y cam yma yw nodi beth yw'r prif ystyriaethau a'r amcanion i'w hystyried yn y Cynllun Datblygu Lleol ac i gasglu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer cynllun da. Gelwir hyn yn 'sail dystiolaeth'.
Mae datblygu'r sail dystiolaeth yma'n broses barhaol. Er mwyn cael cynllun 'cadarn', bydd eich awdurdod yn casglu amrediad eang o wybodaeth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i gael sail ffeithiol i’r cynllun. Er enghraifft, cesglir gwybodaeth ar stoc tai presennol mewn ardal a'i gymharu â'r angen am dai yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu penderfynu faint o dai newydd fydd eu hangen dros gyfnod y cynllun.
Rhaid i'r CDLl annog datblygiad sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Bydd Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd yn dangos sut yr ystyriwyd hyn.
Cyfleoedd i gymryd rhan
Efallai bydd eich awdurdod lleol yn gofyn i chi a'ch cymuned neu sefydliad lleol am wybodaeth ynghylch eich ardal. Gall aelodau'r gymuned a sefydliadau lleol helpu i ddatblygu'r sail dystiolaeth trwy ddarparu gwybodaeth fanwl am eu hardal na fydd yn hysbys efallai i'r awdurdod. Gall hyn fod yn bethau sy'n gwneud yr ardal yn arbennig, neu safleoedd arbennig yr ystyriwch chi ddylai cael eu datblygu yn y dyfodol.