Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Cynhadledd Cymorth Cynllunio 2010

'Cymorth Cynllunio – Ymgysylltu â Chymunedau'

Dydd Iau Ebrill 29ain a bore Gwener Ebrill 30ain 2010
Park Inn, Canol Dinas Caerdydd

Cynhelir y Gynhadledd Genedlaethol Cymorth Cynllunio eleni yng Nghaerdydd. Bydd yn dod â staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr cymorth cynllunio at ei gilydd ynghyd â chynrychiolwyr o grwpiau cymuned a gwirfoddol ar draws y DU gyfan.

Ffocws y gynhadledd fydd sut mae gwasanaethau cynllunio'r DU eisoes yn ymgysylltu â chymunedau a sut y gallwn wneud yn well yn y dyfodol. Bydd amgylchedd gyfeillgar, hamddenol yn annog cynadleddwyr i gyfnewid syniadau, i ysbrydoli ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Yn dilyn anerchiad gan Jane Davidson, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, bydd rhaglen fywiog o weithdai, grwpiau trafod a theithiau maes yn arddangos ymarfer gorau mewn ymgysylltu â chymunedau wrth gynllunio yn ogystal â mentrau cymunedol calonogol fydd yn elwa o gefnogaeth cymorth cynllunio.

Ymysg y gweithdai bydd adroddiad o lygad y ffynnon am bentref eco Lammas yn Sir Benfro gan Paul Wimbush, un o sylfaenwyr y cynllun arloesol yma. Bydd Patrick Anderson o Planning Aid for London a'r Cynghorydd Lorna Campbell o'r London Borough of Lambeth yn archwilio ffyrdd o ddiwallu anghenion cynllunio cymunedau ffydd sy tu allan i'r prif ffrwd. Bydd Ian Horsburgh o Gymorth Cynllunio Cymru yn dod ag ystod o gydweithwyr a cleientiau at ei gilydd i drafod sut gall cymorth cynllunio helpu Sipsiwn a Theithwyr i oresgyn rhwystrau cynllunio. A bydd y mynychwyr yn plymio pa gyfleoedd sydd yna i bobl leol ddylanwadu ar benderfyniadau ar atomfeydd gyda Sue Webber a Sarah Martin o South West Planning Aid.

Bydd y gynhadledd, dan gadeiryddiaeth Kelvin MacDonald o Brifysgol Caergrawnt, yn gyfle amhrisiadwy i'r rhai sy'n ymwneud â chymorth cynllunio a gwaith cymunedol ledled y DU i ddod at ei gilydd i gael eu hysbrydoli ac i ddatblygu syniadau newydd.

Gallwch lawrlwytho'r fersiwn ddiweddaraf o raglen y gynhadledd yma. Mae manylion o'r gweithdai i gyd ar gael yma.

Cliciwch yma i lawrlwytho taflen y gynhadledd a ffurflen gofrestru. Ceir fersiwn testun-yn-unig yma.

Cyfleoedd arddangos

  • Arddangoswyr corfforaethol: £500
  • Arddangoswyr y sector wirfoddol: £200
  • Am fanylion ffoniwch 01286 882 834