Croeso
Mae'r system gynllunio yn helpu ffurfio dyfodol eich cymuned. Amcan y wefan hon yw rhoi yr wybodaeth angenrheidiol i chi i gymryd rhan mewn materion cynllunio. Mae'n rhoi gwybodaeth sy'n hawdd ei deall ynghylch polisi cynllunio cenedlaethol ac ynghylch cynllunio yn eich ardal.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei angen arnoch, rhowch gynnig ar ein gwasanaeth cynghori.
I gael gwybodaeth am wasanaethau Cymorth Cynllunio yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig cliciwch yma.
Beth yw cynllunio?
Cynllunio yw'r system sy'n rheoli defnydd a datblygiad pob rhan o dir. Mae hyn yn cynnwys tai, ysgolion, ffatrïoedd a'r rhan fwyaf o adeiladau pwrpasol eraill.
Amcan y system gynllunio yw rheoli datblygiadau newydd er budd cymdeithas. Rhaid dod o hyd i gydbwysedd rhwng yr angen am dai newydd a'r angen i ddiogelu'r gorau yn ein hamgylchedd. Y syniad yw creu lleoedd gwell i bobl fyw, gweithio ac ymlacio ynddynt.
Mae gennych hawl i ddweud eich dweud ar gynllunio dyfodol eich cymuned.
Sut gallwn ni helpu
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen gofrestredig annibynnol. Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor diduedd, proffesiynol am ddim ar bob agwedd o gynllunio defnydd tir yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddefnyddio rhwydwaith o wirfoddolwyr ledled Cymru.
Rydym yn helpu unigolion a grwpiau sydd methu fforddio ymgynghorydd cynllunio ac na fydd yn elwa'n ariannol o gael ein cymorth.
Rydym hefyd yn darparu gweithdai, seminarau a hyfforddiant ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd am gymryd mwy o ran mewn cynllunio yn eu hardal.
Newyddion diweddaraf
Swyddi Swyddog Hyfforddi a Datblygu 27 Awst 2010
Rydym yn chwilio am unigolyn hunan-ysgogol a threfnus sy’n gallu gweithio gydag eraill i gychwyn a datblygu prosiectau hyfforddi.
Cliciwch yma