Sut gallwn ni helpu
Sut gallwn ni helpu
Mae Cymorth Cynllunio Cymru'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer y cyhoedd a grwpiau â diddordebau arbennig.
Gwybodaeth
Mae Cymorth Cynllunio Cymru'n darparu amrediad o wasanaethau gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd ar faterion cynllunio.
I ddod i wybod mwy am ein gwasanaethau gwybodaeth, yn cynnwys cyhoeddiadau a gwybodaeth am eich awdurdod cynllunio lleol cliciwch yma.
I ddysgu mwy am y system gynllunio yng Nghymru cliciwch yma.
Cyngor
Mae Cymorth Cynllunio Cymru'n gweithredu gwasanaeth Llinell Gymorth ar ebost a ffôn ar gyfer aelodau cymwys o'r cyhoedd a grwpiau cymunedol. I ddarganfod mwy am y gwasanaeth Llinell Gymorth, cliciwch yma.
Nodwch mai ein bwriad yw defnyddio'n hadnoddau cyfyngedig ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf. Golyga hyn mai ond i bobl a grwpiau cymwys y gallwn roi rhai o'n gwasanaethau cyngor a chefnogaeth. Am fwy o wybodaeth am ein meini prawf cymhwyster ac i ddarganfod a ydych chi'n gymwys i dderbyn ein gwasanaeth cliciwch yma.
Hyfforddiant
Oes angen hyfforddiant arnoch chi ar agwedd arbennig o'r broses gynllunio? Mae Cymorth Cynllunio Cymru'n darparu gwasanaethau hyfforddi i'r cyhoedd a grwpiau â diddordebau arbennig. I ddarganfod mwy, cliciwch yma.