Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Llinell Gymorth

Mae Cymorth Cynllunio Cymru'n cynnig gwasanaeth Llinell Gymorth rhad ac am ddim i gynorthwyo aelodau 'cymwys' o'r cyhoedd a grwpiau cymuned sydd angen help arnynt gyda mater cynllunio. Am fwy o wybodaeth am y meini prawf y defnyddiwn i benderfynu ar gymhwyster, cliciwch yma.

Er efallai nad ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaeth ein Llinell Gymorth, gallwch ddod o hyd i bob math o wybodaeth a chyngor ar y wefan hon trwy glicio ar Am gynllunio a Gwybodaeth.

Mae'r Llinell Gymorth yn darparu tair lefel wahanol o gymorth – gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth. Bydd lefel y gwasanaeth sydd ar gael yn dibynnu ar gymhwyster yr unigolyn, grwp neu'r fusnes sy'n chwilio am gymorth.

Gwybodaeth

  • Esboniad o'r rhan berthnasol o'r broses gynllunio (megis ceisiadau cynllunio, datblygiad neu weithdrefnau apeliadau).
  • Cyfeirio at ddogfennau canllaw sy'n egluro'r gweithdrefnau'n fwy manwl.
  • Esboniad o'ch hawliau o fewn y system gynllunio.
  • Cyfeirio at sefydliadau allai ddarparu cymorth pellach.
  • Cyfeirio at restr o ymgynghorwyr cynllunio sy'n ardystiedig gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).

Cyngor

  • Gwybodaeth fanwl ar agweddau penodol o'r system gynllunio.
  • Cymorth gyda datblygu strategaethau i ddelio gyda materion cynllunio penodol.
  • Cymorth gyda datblygu dadleuon i gefnogi eich achos.
  • Ymchwil sylfaenol a chyfeirio at bolisïau neu achosion perthnasol, yn cynnwys cyngor ar sut i'w defnyddio'n fwyaf effeithiol.

Cefnogaeth

  • Gwybodaeth a chyngor parhaol.
  • Cynrychiolaeth ar eich rhan.
  • Ymweliadau â safleoedd fel bo'n addas.
  • Cymorth gyda pharatoi llythyrau a ffurflenni fel bo'n addas.
  • Cymorth gyda pharatoi ymatebion ymgynghoriad, ceisiadau cynllunio neu astudiaethau dichonoldeb.
  • Cymorth gyda chyfeirio at gyrff eraill sy'n gallu darparu cymorth mwy arbenigol.

Gallwch cysylltu â'n Llinell Gymorth ar y ffôn, trwy ebost neu lythyr. Rhoddir y manylion cyswllt isod.

Ar y ffôn:

02920 625000

(Oriau agor: 10.00am i 1.30pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener)

Ar ebost:

I lenwi ffurflen ymholiad cynllunio arlein cliciwch yma.

Gyda'r post:

Anfonwch eich ymholiad i'r cyfeiriad isod, gan wneud yn siwr eich bod yn cynnwys eich enw, manylion cyswllt, esboniad byr o'r mater cynllunio yr ydych angen help gydag e ac esboniad byr pam rydych yn meddwl eich bod yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn.

Cymorth Cynllunio Cymru
Y Llawr Cyntaf,
174 Heol yr Eglwys Newydd
Y Mynydd Bychan, Caerdydd.
CF14 3NB

Rydym yn ceisio ateb pob cais am gymorth o fewn 48 awr. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i ddweud pryd fyddwn yn gallu delio gyda'ch cais.