Sut gallwn ni helpu
Casnewydd
Cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Lleol:
Cyfnod Cyfredol: Cynllun Adneuo
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cynhyrchu fersiwn ddrafft llawn o’r cynllun Datblygu Lleol. Mae’n cynnwys:
- strategaeth a ffefrir
- cynigion ar gyfer ardaloedd allweddol i’w newid, adnewyddu neu ddiogelu
- safleoedd penodol i’w defnyddio ar gyfer dibenion penodol
- polisïau a chynigion penodol eraill.
Mae’r cynllun adneuo’n cynnwys cynigion terfynol yr awdurdod cynllunio ar gyfer y CDLl. Trosglwyddir y cynllun i Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn ei brofi mewn archwiliad cyhoeddus.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o chwech wythnos o leiaf. Dyma ail gyfle i chi roi sylwadau ar strategaeth fras y cynllun neu i awgrymu dulliau amgen.
Mae’r ymgynghoriad ar y cam hwn o’r cynllun i gymryd lle ym Mehefin 2011.
Yng ngham nesaf paratoi’r cynllun, bydd cyfnod pellach o chwech wythnos o ymgynghori, yn hysbysebu safleoedd amgen a gynigir gan y rhai sy’n gwrthwynebu’r cynllun adneuo, sydd i gymryd lle Hydref 2011.
Cyswllt ar gyfer Cynlluniau Datblygu:
Enw Cyswllt: Pennaeth Polisi Cynllunio
Cyfeiriad: Polisi Cynllunio, Newport City Council, Civic Centre, Newport, NP20 4UR
Rhif ffon: 01633 233233
Cyfeiriad e-bost: ldp.consultation@newport.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma
Cyswllt ar gyfer Cais Datblygu:
Enw Cyswllt: Rheolwr Rheoli Datblygu
Cyfeiriad: Cynllunio, Regeneration and Strategic Housing , Newport City Council, Civic Centre, Newport, NP20 4UR
Rhif ffon: 01633 656656 (Canolfan Cyswllt)
Cyfeiriad e-bost: planning@newport.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma