Sut gallwn ni helpu
Castedd-nedd Port Talbot
Cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Lleol:
Cyfnod Cyfredol: Rhanddalwyr yn ymrwymo a chymryd rhan
Mae’r cam hwn ym mharatoi’r cynllun yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn gosod cyfeiriad strategol i gamau hwyrach datblygu’r cynllun.
Bydd gan y bobl yr effeithir eu buddiannau’n uniongyrchol arnynt gan y cynllun (fe’u gelwir yn ‘rhanddalwyr’ fel arfer) gyfle i weithio gyda’r awdurdod cynllunio i osod cyfeiriad bras, strategol ar gyfer y cynllun. Ond cofiwch na all awdurdodau cynllunio gynnwys pawb i ddatblygu’r cynllun oherwydd byddai’n cymryd yn rhy hir, felly fel arfer bydd cyrff yn cynrychioli buddiannau’r rhanddalwyr.
Yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn nghynllunio’r cynllun, amcan yr awdurdod cynllunio fydd cytuno gyda’r rhanddalwyr ar weledigaeth ac ‘amcanion strategol’ ar gyfer y cynllun. Efallai bydd yr awdurdod yn penderfynu gweithio gyda rhanddalwyr i ddatblygu ystod o ‘opsiynau strategol’ posibl – gwerthusir rhain cyn i’r awdurdod baratoi y ‘strategaeth a ffefrir’.
Disgwylir i gam nesaf paratoi’r cynllun, ‘ymgynghoriad cyn-adneuo’ ar ‘strategaeth a ffefrir’ yr awdurdod, gymryd lle yn ystod 2011.
Cyswllt ar gyfer Cynlluniau Datblygu:
Enw Cyswllt: Pennaeth Polisi Cynllunio
Cyfeiriad: LDP Team, Planning Policy, Neath Port Talbot County Borough Council, The Quays, Brunel Way, Baglan Energy Park, Neath, SA11 2GG.
Rhif ffon: 01639 686421
Cyfeiriad e-bost: ldp@npt.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma
Cyswllt ar gyfer Cais Datblygu:
Er mwyn cymorth proses y Cais Cynllunio, mae Gwasanaethau Cynllunio Neath Port Talbot wedi torri’r bwrdeistref rhwng tri tim wahanol: Gogledd, Canolog a’r De. Mae’r map sydd yn ddangos ardaloedd y timau ynghyd a manylion cyswllt ar gael i’w weld wrth clicio yma
Cyfeiriad: Planning Division, The Quays, Brunel Way, Baglan Energy Park, Neath, SA11 2GG.
Wefan: Cliciwch yma