Sut gallwn ni helpu
Abertawe
Cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Lleol:
Cyfnod Cyfredol: Rhanddalwyr yn ymrwymo a chymryd rhan
Mae’r cam hwn ym mharatoi’r cynllun yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn gosod cyfeiriad strategol i gamau hwyrach datblygu’r cynllun.
Bydd gan y bobl yr effeithir eu buddiannau’n uniongyrchol arnynt gan y cynllun (fe’u gelwir yn ‘rhanddalwyr’ fel arfer) gyfle i weithio gyda’r awdurdod cynllunio i osod cyfeiriad bras, strategol ar gyfer y cynllun. Ond cofiwch na all awdurdodau cynllunio gynnwys pawb i ddatblygu’r cynllun oherwydd byddai’n cymryd yn rhy hir, felly fel arfer bydd cyrff yn cynrychioli buddiannau’r rhanddalwyr.
Yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn nghynllunio’r cynllun, amcan yr awdurdod cynllunio fydd cytuno gyda’r rhanddalwyr ar weledigaeth ac ‘amcanion strategol’ ar gyfer y cynllun. Efallai bydd yr awdurdod yn penderfynu gweithio gyda rhanddalwyr i ddatblygu ystod o ‘opsiynau strategol’ posibl – gwerthusir rhain cyn i’r awdurdod baratoi y ‘strategaeth a ffefrir’.
Disgwylir i gam nesaf paratoi’r cynllun, ‘ymgynghoriad cyn-adneuo’ ar ‘strategaeth a ffefrir’ yr awdurdod, gymryd lle yn yr Hydref, 2011.
Cyswllt ar gyfer Cynlluniau Datblygu:
Enw Cyswllt: Paul Mellor
Cyfeiriad: Tîm Polisi Cynllunio, Dinas a Sir Abertawe, Ystafell 2.6.2, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN
Rhif ffon: 01792 635744
Cyfeiriad e-bost: ldp@swansea.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma
Cyswllt ar gyfer Cais Datblygu:
Enw Cyswllt: Rheolwr Rheoli Datblygu
Cyfeiriad: Development Control, City and County of Swansea Council, Room 2.6.2, Civic Centre, Oystermouth Road, Swansea, SA1 3SN
Rhif ffon: 01792 636000
Cyfeiriad e-bost: planning@swansea.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma