Sut gallwn ni helpu
Cyngor Sir Powys
Cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Lleol:
Cyfnod Cyfredol: Rhanddalwyr yn ymrwymo a chymryd rhan
Mae’r cam hwn ym mharatoi’r cynllun yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn gosod cyfeiriad strategol i gamau hwyrach datblygu’r cynllun.
Bydd gan y bobl yr effeithir eu buddiannau’n uniongyrchol arnynt gan y cynllun (fe’u gelwir yn ‘rhanddalwyr’ fel arfer) gyfle i weithio gyda’r awdurdod cynllunio i osod cyfeiriad bras, strategol ar gyfer y cynllun. Ond cofiwch na all awdurdodau cynllunio gynnwys pawb i ddatblygu’r cynllun oherwydd byddai’n cymryd yn rhy hir, felly fel arfer bydd cyrff yn cynrychioli buddiannau’r rhanddalwyr.
Yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn nghynllunio’r cynllun, amcan yr awdurdod cynllunio fydd cytuno gyda’r rhanddalwyr ar weledigaeth ac ‘amcanion strategol’ ar gyfer y cynllun. Efallai bydd yr awdurdod yn penderfynu gweithio gyda rhanddalwyr i ddatblygu ystod o ‘opsiynau strategol’ posibl – gwerthusir rhain cyn i’r awdurdod baratoi y ‘strategaeth a ffefrir’.
Disgwylir i gam nesaf paratoi’r cynllun, ‘ymgynghoriad cyn-adneuo’ ar ‘strategaeth a ffefrir’ yr awdurdod, gymryd lle ym mis Awst 2011.
Cyswllt ar gyfer Cynlluniau Datblygu:
Enw Cyswllt: Rheolwr Polisi Cynllunio
Cyfeiriad: Gwasanaethau Cynllunio, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Brecon, LD3 7HR
Rhif ffon: 0845 602 7030 neu 01597 827 460
Cyfeiriad e-bost: ldp@powys.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma
Cyswllt ar gyfer Cais Datblygu:
Dilyn yr ailstrwythuro ym mis Hydref 2008 mae yna nawr tri adran Rheoli Datblygu wahanol. Mae wefan Powys (gweld y linc isod) yn manylu pa swyddfa sydd yn orchuddio eich dref agosaf.
Mae manylion cyswllt ar gyfer pob adran ar gael ar colofn llaw dde o’r dudalen hon