Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Caerdydd

Cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Lleol:

C3Cyfnod Cyfredol: Rhanddalwyr yn ymrwymo a chymryd rhan

Mae’r cam hwn ym mharatoi’r cynllun yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn gosod cyfeiriad strategol i gamau hwyrach datblygu’r cynllun.

Bydd gan y bobl yr effeithir eu buddiannau’n uniongyrchol arnynt gan y cynllun (fe’u gelwir yn ‘rhanddalwyr’ fel arfer) gyfle i weithio gyda’r awdurdod cynllunio i osod cyfeiriad bras, strategol ar gyfer y cynllun. Ond cofiwch na all awdurdodau cynllunio gynnwys pawb i ddatblygu’r cynllun oherwydd byddai’n cymryd yn rhy hir, felly fel arfer bydd cyrff yn cynrychioli buddiannau’r rhanddalwyr.

Yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn nghynllunio’r cynllun, amcan yr awdurdod cynllunio fydd cytuno gyda’r rhanddalwyr ar weledigaeth ac ‘amcanion strategol’ ar gyfer y cynllun. Efallai bydd yr awdurdod yn penderfynu gweithio gyda rhanddalwyr i ddatblygu ystod o ‘opsiynau strategol’ posibl – gwerthusir rhain cyn i’r awdurdod baratoi y ‘strategaeth a ffefrir’.

Disgwylir i gam nesaf paratoi’r cynllun, ‘ymgynghoriad cyn-adneuo’ ar ‘strategaeth a ffefrir’ yr awdurdod, gymryd lle tuag at diwedd 2011.

Cyswllt ar gyfer Cynlluniau Datblygu:

Enw Cyswllt: Rheolwr Polisi Cynllunio

Cyfeiriad: Polisi, Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd, Cyngor Caerdydd, Ystafell CY1 Neuadd y Syr, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

Rhif ffon: 029 2087 3469 / 029 2087 3461

Cyfeiriad e-bost: Cynllundatblygu@caerdydd.gov.uk

Wefan: Cliciwch yma

Cyswllt ar gyfer Cais Datblygu:

Enw Cyswllt: Rheolwr Rheoli Datblygu

Cyfeiriad: Rheolwr Datblygu, Yr adran Rheoli Datblygiad, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
CF10 3ND

Rhif ffon: 029 2087 1135

Cyfeiriad e-bost: Cynllundatblygu@caerdydd.gov.uk

Wefan: Cliciwch yma