Sut gallwn ni helpu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Lleol:
Cyfnod Cyfredol: Cynllun Adneuo
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynhyrchu fersiwn ddrafft llawn o’r cynllun Datblygu Lleol. Mae’n cynnwys:
- strategaeth a ffefrir
- cynigion ar gyfer ardaloedd allweddol i’w newid, adnewyddu neu ddiogelu
- safleoedd penodol i’w defnyddio ar gyfer dibenion penodol
- polisïau a chynigion penodol eraill.
Mae’r cynllun adneuo’n cynnwys cynigion terfynol yr awdurdod cynllunio ar gyfer y CDLl. Trosglwyddir y cynllun i Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn ei brofi mewn archwiliad cyhoeddus.
Bydd yna ail ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o chwech wythnos o leiaf. Dyma ail gyfle i chi roi sylwadau ar strategaeth fras y cynllun neu i awgrymu dulliau amgen.
Mae’r ymgynghoriad ar y cam hwn o’r cynllun i gymryd lle ar 26ain o Ebrill.
Yng ngham nesaf paratoi’r cynllun, bydd cyfnod pellach o chwech wythnos o ymgynghori, yn hysbysebu safleoedd amgen a gynigir gan y rhai sy’n gwrthwynebu’r cynllun adneuo, sydd i gymryd lle yn yr Haf 2011.
Cyswllt ar gyfer Cynlluniau Datblygu:
Enw Cyswllt: Rheolwr Polisi Cynllunio
Cyfeiriad: Polisi Cynllunio a Chynlluniau Datblygu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Rhif ffon: 01492 575124 neu 575180
Cyfeiriad e-bost: cdll.ldp@conwy.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma
Cyswllt ar gyfer Cais Datblygu:
Enw Cyswllt: Rheolwr Rheoli Datblygu
Cyfeiriad: Adain Rheoli Datblygu, Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn, Conwy LL29 8AR
Rhif ffon: 01492 575247
Cyfeiriad e-bost: gwasanaethau.rheoleiddio@conwy.gov.uk
Wefan: Cliciwch yma