Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Cyhoeddiadau

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi cynhyrchu dau lawlyfr canllaw cyffredinol sydd ar werth ynghyd ag amrediad o lyfrynnau canllaw ar agweddau penodol o'r system gynllunio. Gellir lawrlwytho'r llyfrynnau am ddim o'r wefan hon.

LLAWLYFRAU CANLLAW

Arweiniad i'r system gynllunio defnydd tir yng Nghymru

Llawlyfr

Mae 'Arweiniad i'r system gynllunio defnydd tir yng Nghymru' yn esbonio, mewn iaith blaen, sut mae prif rannau'r system gynllunio yn gweithio. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar y ffyrdd gorau i gyflwyno sylwadau a safbwyntiau'r cyhoedd i'r rhai sy'n penderfynu ceisiadau cynllunio.

Pris: AM DDIM

Pacio a phostio: £1

Cliciwch yma i lawrllwythio copi

Cliciwch yma i archebu copi



Llawlyfr cynghorwyr cymuned a thref: y system gynllunio defnydd tir yng Nghymru

Llawlyfr cynghorau cymuned

Dyluniwyd 'Llawlyfr Cynghorwyr Cymuned a Thref: Y system gynllunio defnydd tir yng Nghymru' yn benodol ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref yng Nghymru. Mae'n gyfeirlyfr ar y prosesau o reolaeth datblygu a chynlluniau datblygu lleol.

Pris: AM DDIM

Pacio a phostio: £1

Cliciwch yma i archebu copi



LLYFRYNNAU CANLLAW

Beth i'w wneud pan yn wynebu cais cynllunio yng Nghymru

Cais cynllunio

Mae 'Beth i'w wneud pan yn wynebu cais cynllunio yng Nghymru' yn rhoi gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i geisiadau cynllunio a sut i gyflwyno sylwadau effeithiol a pherthnasol i'r awdurdod cynllunio lleol.

Dylunwiyd y llyfryn ar gyfer pobl sydd am gefnogi neu wrthwynebu cais cynllunio yn eu hardal.

Pris: AM DDIM

Pacio a phostio: £1

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn

Cliciwch yma i archebu copi ar bapur



Canllaw i'r cyhoedd ar orfodaeth cynllunio yng Nghymru

GorfodaethMae 'Canllaw i'r cyhoedd ar orfodaeth cynllunio yng Nghymru' yn rhoi arolwg o ymarferion a threfnweithiau gorfodaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i baratoi ar gyfer apêl gorfodaeth.

Dyluniwyd y llyfryn ar gyfer pobl sydd am apelio yn erbyn gweithredu gorfodol gan yr awdurdod cynllunio lleol, ac hefyd pobl sy'n pryderu ynghylch datblygiad sydd efallai heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol.

Pris: AM DDIM

Pacio a phostio: £1

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn

Cliciwch yma i archebu copi ar bapur



Gweld y goleuni: Cynllunio a hawl i olau yng Nghymru

light-cymr

Mae 'Gweld y goleuni: Cynllunio a hawl i olau yng Nghymru' yn rhoi arolwg o'r materion sy'n ymwneud â goleuni a chysgodi yn y broses gynllunio yng Nghymru.

Dyluniwyd y llyfryn ar gyfer pobl sy'n pryderu bod cais am ddatblygiad newydd yn mynd i gael effaith 'cysgodol' annerbyniol ar eu heiddo, ac mae hefyd ar gyfer datblygwyr sydd am sicrhau na fydd eu hadeilad yn achosi colli golau i eiddo cyfagos ar radd annerbyniol.

Pris: AM DDIM

Pacio a phostio: £1

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn

Cliciwch yma i archebu copi ar bapur



Planning for Gypsy and Traveller Caravan Sites

Travellers-booklet-cover-smallMae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi'r llyfryn yma, a gafodd ei baratoi gan Gymorth Cynllunio Cymru. Mae'n esbonio mewn iaith syml y rheolau a threfniadau ar gyfer sefydlu safleoedd newydd i Sipsiwn a Theithwyr. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ar hawliau pobl sy'n byw ar safle heb ganiatâd cynllunio. A chewch awgrymiadau lle gallwch fynd am ragor o gymorth neu wybodaeth. Cafodd y lluniau yn y llyfryn eu cynhyrchu gan fyfyrwyr y Monkton Priory Project yn Sir Benfro.

Pris: AM DDIM

Pacio a phostio: £1

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn

Canllaw Datganiad Mynediad

AGEng-coversmall (2)

Mae’r Canllaw Datganiad Mynediad wedi arlunio i wneud Datganiadau Mynediad yn dealladwy ac hygyrch i bawb. Mae o’n hawdd i ddefnyddio ac yn rhoi gwybodaeth ar baratoi Datganiad Mynediad yn ymarferol yn ogystal a rhoi gwybodaeth as arlunio gynhwysol, rheoleth adeiladu a cwestiynau cyffredin.

Pris: AM DDIM

Pacio a phostio: £1

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn

Cliciwch yma i archebu copi ar bapur


Angen help gyda mater cynllunio?

leafletsMae'r daflen yma'n esbonio'r gwasanaethau mae Cymroth Cynllunio Cymru'n eu cynnig ac yn rhoi ein manylion cyswllt.

Pris: AM DDIM

Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen








Gwirfoddolwch gyda ni

volcoverimg_welshMae'r daflen yma'n rhoi cyflwyniad i wirfoddoli gyda Chymorth Cynllunio Cymru.

Pris: AM DDIM

Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen