Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Hyfforddiant

Amcan Cymorth Cynllunio Cymru yw meithrin gallu cymunedau i gymryd rhan yn effeithiol yn y system gynllunio. Os ydych chi'n aelod o grŵp gwirfoddol neu gymunedol sydd am ddysgu mwy am sut i roi llais i'ch cymuned ar benderfyniadau ynghylch eich hardal leol, gallwn helpu trefnu sgyrsiau, seminarau a digwyddiadau eraill ar gyfer eich grŵp.

Rydym hefyd yn cynnig rhaglen hyfforddiant arbennig ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref.

Hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol

Gall eich grŵp wahodd Cymorth Cynllunio Cymru i gynnal digwyddiad hyfforddi ar gyfer eich anghenion penodol. Chi fydd yn dewis y pwnc rydych am ddysgu amdano ynghyd â hyd a fformat y sesiwn, a all fod mor ffurfiol neu anffurfiol ag y dymunwch.

Fel arfer codir tâl am y gwasanaeth yma, ond mae gostyngiadau ar gael i grwpiau gydag arian cyfyngedig. Gallwch weld rhestr o'n ffioedd hyfforddiant cyfredol a gwybodaeth am gymhwyster i gael gostyngiad trwy glicio yma.

Cefnogaeth ar gyfer eich gweithgareddau

Wrth i'ch grŵp gymryd rhan mewn cynllunio gallwn roi cyngor a chefnogaeth i chi os ydych yn ei gweld yn anodd deall y broses ac i sicrhau y clywir eich llais.

Gallwn hefyd roi cefnogaeth ychwanegol i weithgareddau eich grŵp, o fewnbwn gan arbenigwr cynllunio i help ymarferol wrth lunio gweledigaeth gymunedol.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch pa fath o hyfforddiant a chefnogaeth fyddai o fudd i'ch grŵp, ffoniwch Marika Fusser, ein Gweithiwr Datblygu ar 01286 882 834.

Esiamplau o brosiectau hyfforddi blaenorol

Ffioedd hyfforddiant a chymhwyster i gael gostyngiadau