Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Rhai enghreifftiau o brosiectau hyfforddi

Cyflwyniad ymarferol i'r system gynllunio

Roedd llawer o drigolion lleol Treherbert yn gofyn i Bartneriaeth Cymunedau'n Gyntaf CwmNi am gymorth ar ystod o faterion cynllunio, yn cynnwys ceisiadau cynllunio unigol a pholisïau cynllun datblygu. Daeth y Bartneriaeth at Gymorth Cynllunio Cymru i weld a fedrem ddylunio a chynnal cyfres o weithdai hyfforddi gyda'r hwyr ar gyfer trigolion lleol yn ystod hydref 2007 a gwanwyn 2008.

Roedd Cymorth Cynllunio Cymru yn awyddus iawn i fachu ar y cyfle i weithio gyda phartner o raglen Cymunedau'n Gyntaf ac fe'i comisiynwyd i drosglwyddo rhaglen o chwe gweithdy gyda phob un yn para tua dwy awr. Un o brif amcanion yr hyfforddi oedd rhoi trosolwg cyffredinol o'r system gynllunio a'r egwyddorion sy'n ei lywio, sef y cam cyntaf angenrheidiol cyn y gall pobl leol ddechrau deall a dylanwadu ar faterion cynllunio lleol.

Cyflwynwyd gwybodaeth eang cyd-destunol trwy ddefnyddio iaith oedd ddim yn dechnegol a thrwy ddefnyddio fformatau i annog cymryd rhan, gan gynnwys cwis cynllunio ac ymarfer chwarae rôl a ganiataodd i'r cyfranogwyr esgus bod yn gynllunwyr awdurdod lleol, datblygwyr ac aelodau o'r cyhoedd yn y broses o greu Cynllun Datblygu Lleol.

Er mwyn gwneud y cyfle dysgu hwn yn berthnasol a chymhwysol i amgylchiadau lleol, bu pob gweithdy'n edrych ar fater cynllunio 'byw', megis datblygiad o dai arfaethedig, gyda'r cyfranogwyr yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r gwahanol ddulliau posibl o weithredu.

Mewn llythyr o ddiolch at Gymorth Cynllunio Cymru, dywedodd partneriaeth CwmNi:

'Roedd y sesiynau hyfforddi a ddarparwyd gan Gymorth Cynllunio Cymru yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol iawn. Mae nifer o ddatblygiadau arfaethedig wedi'u cynllunio o fewn ein hardal ac mae trigolion Treherbert yn teimlo yr hoffent gael dealltwriaeth lawnach o'r broses gynllunio er mwyn bod yn ddeallus ynghylch datblygiad eu hamgylchedd leol. Darparwyd hyn mewn dull ardderchog gan Gymorth Cynllunio Cymru, trwy rannu'r broses datblygu, mewn dull hwyliog a hygyrch fel bo unrhyw un lleyg yn deall. Roedd pob un a gymerodd ran yn yr hyfforddiant wedi dysgu pethau gwerthfawr a pherthnasol i'w sefyllfaoedd cyfredol ac maent wedi gofyn am fwy o hyfforddiant yn yr ardal er mwyn i'w cyfeillion gymryd rhan. Diolch yn fawr iawn am eich holl help ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi eto yn y dyfodol.'

Cynnwys yr hyfforddiant:

  1. Amlinelliad cyffredinol o'r system gynllunio defnydd tir yng Nghymru
  2. Deall proses y cynllun datblygu lleol
  3. Deall proses cais cynllunio
  4. Mater lleol penodol a'r dulliau posibl o weithredu
  5. Ble i fynd am fwy o gymorth

Sut gall grwpiau mynediad ddylanwadu ar gynllunio a rheolaeth adeiladu

Sefydliadau gwirfoddol yw grwpiau mynediad sy'n gweithio i sicrhau bod mynediad i'r anabl i adeiladau a mannau cyhoeddus. Gofynnodd Grŵp Mynediad Brycheiniog ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i Gymorth Cynllunio Cymru am hyfforddiant ar sut y gallant ddylanwadu'n fwy effeithiol ar benderfyniadau cynllunio a rheoli adeiladu. Trefnasom ddiwrnod hyfforddiant llwyddiannus ar gyfer y grŵp yn Ebrill 2007.

Dyluniwyd diwrnod hyfforddiant arbennig i'r grŵp gan Kay Powell, sy'n wirfoddolwraig brofiadol gyda Chymorth Cynllunio Cymru, gan gynnwys sawl siaradwr gydag arbenigedd. Diolchodd cadeirydd y grŵp i Kay gan ddweud: 'Mae nifer o bobl a fynychodd wedi cysylltu â mi i ddweud pa mor ddefnyddiol oedd y dydd. Diolch yn fawr iawn ichi oddi wrthym ni.'

Cynnwys yr hyfforddiant:

  1. Gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
  2. Cyfrannu at arweiniad cynllunio atodol drafft a Cynlluniau Datblygu Lleol
  3. Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Ddatganiadau Mynediad
  4. Rheoliadau Adeiladu – cyflwyniad

Hyfforddiant Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer cynghorau tref a chymuned

Yng ngwanwyn 2008 comisiynwyd Cymorth Cynllunio Cymru gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddylunio a thraddodi rhaglen gynhwysfawr o weithdai ar gyfer yr holl gynghorau tref a chymuned yn ardal y parc cenedlaethol. Y bwriad oedd meithrin gallu'r cynghorau cymuned lleol er mwyn iddynt ddeall a chymryd rhan yn fwy effeithiol yng nghamau cynnar y Cynllun Datblygu Lleol oedd i'w baratoi ar gyfer ardal y parc cenedlaethol.

Gweithiodd Cymorth Cynllunio Cymru gyda thîm rhag-gynllunio yr awdurdod i ddylunio fframwaith hyfforddiant cyfranogiad. Fe wnaethom gomisiynu darparwyr hyfforddiant a datblygu cymuned i'n cynorthwyo i ddatblygu cynnwys yr hyfforddiant a'r deunyddiau, a buom yn gweithio gyda hwy i draddodi rhaglen o dri gweithdy hyfforddiant yn olynol. Rhoddodd y gweithdai cynnar gyflwyniad craidd i'r cyfranogwyr o'r broses gynllunio a'u rôl hwy ynddi. Cyflwynodd y gweithdai diweddarach ystod o arfau a thechnegau y gallai'r cynghorau eu defnyddio pan yn gweithio gyda'u cymunedau i greu mewnbwn lleol ystyrlon i'r broses o greu cynlluniau.

Rhwng dechrau Ionawr a dechrau Mawrth 2008 cyflwynwyd naw gweithdy ar gyfer cynghorwyr mewn sawl lleoliad gyda chynrychiolaeth o'r rhan fwyaf o'r cynghorau lleol yn y Parc Cenedlaethol.
Roedd dau brif allbwn o'r gwaith hwn: cyngor cynhwysfawr a phecyn gwybodaeth i alluogi cynghorau cymuned i ddeall cyd-destun ehangach eu rôl newydd ym mharatoad cynllun datblygu a phecyn cymorth cyfranogiad sy'n rhoi i gynghorau cymuned ystod o dechnegau gyda'r bwriad o helpu i greu ymateb cymuned gynrychiadol i faterion rhag-gynllunio.

Cynnwys yr hyfforddiant:

  • Sesiwn 1: Cyflwyniad i broses y Cynllun Datblygu Lleol a rôl cynghorau tref a chymuned ym mharatoi'r cynllun
  • Sesiwn 2: Datblygu rôl allweddol y cynghorau tref a chymuned fel canolwyr rhwng cymunedau lleol a'r awdurdod cynllunio lleol yn ystod y cyfnodau cynnar o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol
  • Sesiwn 3: Cyflwyno ystod o arfau a thechnegau ar gyfer gweithio gyda chymunedau lleol.