Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Newyddion

Cynhadledd Cymorth Cynllunio 2010
10 Maw 2010

Cynhelir y Gynhadledd Genedlaethol Cymorth Cynllunio ar 29-30 Ebrill 2010 yng Nghaerdydd. Y thema bydd 'Cymorth Cynllunio - Ymgysylltu â Chymunedau'.

Cynllun Iaith Gymraeg Cymorth Cynllunio Cymru
10 Maw 2010

Erbyn hyn mae tair blynedd o'r bron wedi mynd heibio ers i Cymorth Cynllunio Cymru fabwysiadu ei Gynllun Iaith Gymraeg cyntaf ac mae'n bryd i'w adolygu. Rydym wedi cynhyrchu Cynllun diwygiedig drafft ar gyfer y tair blynedd nesaf ac hoffem gael sylwadau ein gwirfoddolwyr, cleientiaid a'n cefnogwyr arno.

Noson Gwis Cymorth Cynllunio Cymru a Rhwydwaith y Cynllunwyr Ifanc
5 Maw 2010

Mae'r Cwisfeistr, James yn gwahodd ffrindiau a chefnogwyr Cymorth Cynllunio Cymru i Noson Gwis arall ar Nos Fercher, Ebrill 28ain 2010 am 6.30yh (y cwis i gychwyn yn brydlon am 7.00yh) yng ngwesty'r Park Inn, Heol Mary Ann, canol Caerdydd.

Adolygiad o'r broses ceisiadau cynllunio yng Nghymru
5 Maw 2010

Fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o weithrediad y broses ceisiadau cynllunio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu astudiaeth ymchwil sy'n archwilio'r materion a phryderon sy'n nodweddiadol Gymreig sy'n deillio o'r broses ceisiadau cynllunio.

Yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad bydd pedair wythnos o ymgynghoriad, a fydd yn dod i ben ar 8 Ebrill 2010.

Cefnogi cynghorau tref a chymuned ym Mannau Brycheiniog
5 Maw 2010

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi comisiynu Cymorth Cynllunio Cymru am yr ail dro i gynorthwyo cynghorau tref a chymuned i gyfrannu at baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal y parc.

Newid o ran Gwybodaeth Gyswllt
25 Tach 2009

Noder os gwelwch yn dda, y bydd prif swyddfa Cymorth Cynllunio Cymru’n ail-leoli o’i lleoliad cyfredol ym Mae Caerdydd i’r cyfeiriad canlynol o 25ain Tachwedd 2009:

Llawr Cyntaf, 174 Whitchurch Road, Y Mynydd Bychan, Caerdydd. CF14 3NB

Ymgynghoriad: Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar ynni a phorthladdoedd
24 Tach 2009

Mae ymgynghoriadau ar agor ar hyn o bryd ar y 'Datganiadau Polisi Cenedlaethol' a fydd yn sail i benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer seilwaith ynni a phorthladdoedd arwyddocaol. Bydd y dyddiadau cau ym mis Chwefror 2010.

Swyddog Hyfforddi newydd
23 Tach 2009

Bydd tîm Cymorth Cynllunio Cymru'n tyfu o fis Rhagfyr ymlaen. Bydd Maria Allen yn ymuno â ni fel ein Swyddog Hyfforddi cyntaf un. Diben y swydd yw cydlynu gwasanaethau hyfforddi Cymorth Cynllunio Cymru a'u datblygu ymhellach.

Tîm Cymorth Cynllunio Cymru'n chwilio am her
23 Tach 2009

Mae tîm staff Cymorth Cynllunio Cymru yn chwilio am brosiect cymunedol heriol i weithio arno ar ein dydd allan o'r swyddfa eleni.

Cynllunio ar gyfer asedion cymunedol
3 Medi 2009

Mae Cymorth Cynllunio Cymru a phrosiect Asedion Cymunedol a Busnes Gwledig Conwy wedi dod at ei gilydd i helpu grwpiau cymunedol a chynghorau cymuned yn wardiau gwledig Conwy i roi bywyd newydd i eiddo nas defnyddir.

Bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn cynnal gweithdy hyfforddi ar gyfer grwpiau cymunedol a chynghorau cymuned.

Strategaeth Genedlaethol Sipsiwn-Teithwyr
2 Medi 2009

Mae dogfen Cymru'n Un yn ymrwymo Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu Strategaeth Sipsiwn-Teithwyr cenedlaethol. Yn yr hydref fe fydd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ar y strategaeth ddrafft, fydd yn cynnwys gweithdy ar lety a chynllunio ar gyfer Sipsiwn-Teithwyr a hwylusir gan Gymorth Cynllunio Cymru.

Adolygiad o'r system gynllunio yng Nghymru
1 Medi 2009

Fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o weithrediad y broses cais cynllunio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu astudiaeth ymchwil fydd yn archwilio materion a phryderon nodedig Cymreig sy'n codi o'r broses cais cynllunio. Apwyntiwyd Elwyn Thomas, Prif Weithredwr Cymorth Cynllunio Cymru fel aelod o'r grŵp llywio a fydd yn goruchwylio'r astudiaeth.

Yn eisiau: Cyfarwyddwyr
25 Awst 2009

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn awyddus i recriwtio aelodau newyddd i'w Fwrdd Rheoli. Gall hyn fod yn gyfle i chi - naill ai yn gynllunydd neu'n rhywun sy â diddordeb yn y sector wirfoddol - i ddatblygu'ch sgiliau, ehangu'ch dealltwriaeth o'r system gynllunio a chyfarfod â phobl newydd.

Hyfforddiant ymgysylltiad cymunedol ar gyfer cynllunwyr
29 Ebr 2009

Yn wythnos gyntaf mis Rhagfyr, bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn dosbarthu rhaglen o bump digwyddiad hyfforddi rhanbarthol un-dydd ar ymgysylltiad cymunedol a thechnegau cyfranogi ar gyfer cynllunwyr.

Ariannir y rhaglen hyfforddi ar y cyd gan Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Traddodir y rhaglen gan Gymorth Cynllunio Cymru mewn cydweithrediad â BDOR cyf, arbenigwyr mewn hyfforddiant cyfranogaeth. Amcan y cyrsiau yw creu amgylchiadau eglur, agored a chydymdeimladol sy’n hanfodol ar gyfer ymgysylltu’r cyhoedd mewn cynllunio. Byddant hefyd yn darparu ystod o declynnau a thechnegau ymarferol sydd ar gael i gynllunwyr sy’n ceisio cael cymunedau lleol i gymryd rhan mewn materion cynllunio.

Llawlyfr cynllunio newydd i Sipsiwn a Theithwyr
16 Chwef 2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd gyhoeddi llyfryn â'r teitl Cynllunio ar gyfer Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr, a gafodd ei baratoi gan Gymorth Cynllunio Cymru. Mae'n esbonio mewn iaith syml y rheolau a threfniadau ar gyfer sefydlu safleoedd newydd i Sipsiwn a Theithwyr. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ar hawliau pobl sy'n byw ar safle heb ganiatâd cynllunio. A cewch awgrymiadau lle gallwch fynd am ragor o gymorth neu wybodaeth.

Cydweithredu ymarferol yn y gymuned
19 Tach 2008

Yn ddiweddar, treuliodd tîm staff Cymorth Cynllunio Cymru ddiwrnod egnïol yn y goedwig yn helpu adeiladu cylch coed ac ardal dysgu am fywyd gwyllt ym Mharc Gwledig Prothceri. Mae'r tîm bellach yn chwilio am brosiect cymunedol heriol arall ar gyfer tymor yr hydref nesaf.

Hyfforddiant ac adnoddau cynllunio ar gyfer cynghorau cymuned a thref
26 Awst 2008

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wrthi'n paratoi cyfres gynhwysfawr o ddeunyddiau hyfforddi ar gyfer cynghorau cymuned a thref ac yn chwilio am gynghorau a fuasai'n fodlon helpu eu treialu yn yr hydref.

Cymorth Cynllunio Cymru yn 30 oed!
9 Gorff 2008

Bydd Cymorth Cynllunio Cymru'n dathlu ei benblwydd yn 30 oed ar y 14eg o Orffennaf 2008 gyda lansiad ei wefan newydd yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.