Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Cydweithredu ymarferol yn y gymuned

19 Tach 2008

Yn ddiweddar, treuliodd tîm staff Cymorth Cynllunio Cymru ddiwrnod egnïol yn y goedwig yn helpu adeiladu cylch coed ac ardal dysgu am fywyd gwyllt ym Mharc Gwledig Prothceri. Roeddem yn chwilio am her fyddai'n ein cymryd allan o'n rôl arferol ac hefyd helpu'r gymuned, a dyna gawsom yn bendant ym Morthceri!

Trefnwyd y diwrnod gan Busnes yn y Gymuned dan adain eu rhaglen gweithwyr yn gwirfoddoli. Ein her oedd clirio llannerch coetir o brysgoed a mieri, creu llwybr cerdded newydd a chreu cylch coed gyda digon o eisteddle i grwpiau o hyd at 30 o blant a gosod blychau i ystlumod ac adar.

Dywedodd Mel Stewart, ceidwad parc ym Morthceri: "Mae hyn yn adnodd gwych i'r Parc, i ysgolion sy'n ymweld ac i grwpiau cymunedol a all ei ddefnyddio ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored. Bydd y gweithgareddau'n gwneud i blant werthfarwogi byd natur. Mae eisoes wedi ei ddefnyddio gan y Grŵp Gwylio Bywyd Gwyllt, sydd wedi ychwanegu rhai cartrefi i ddraenogod."

Mae tîm staff Cymorth Cynllunio Cymru'n chwilio am brosiect cymunedol heriol arall ar gyfer tymor yr hydref nesaf. Os byddai eich prosiect yn elwa o gael cymorth wyth llaw egnïol am ddiwrnod, cysylltwch â ni.