Newyddion
Cynllunio ar gyfer asedion cymunedol
3 Medi 2009Mae Cymorth Cynllunio Cymru a phrosiect Asedion Cymunedol a Busnes Gwledig Conwy wedi dod at ei gilydd i helpu grwpiau cymunedol a chynghorau cymuned yn wardiau gwledig Conwy i roi bywyd newydd i eiddo nas defnyddir.
Mae'r prosiect Asedion Cymunedol a Busnes Gwledig yn un o 31 o brosiectau sydd ar y gweill yng Nghonwy gyda chyllid gan Y Cynllun Datblygu Gwledig. Prif amcan y prosiect yw nodi adeiladau a thir nas defnyddir yn y Gonwy wledig sydd efallai â photensial i'w hailddatblygu ar gyfer defnydd busnes neu gymunedol. Cofnodir yr angen am adeiladau a thir yn ogystal â manylion y datblygwyr posibl yn y sectorau cymunedol a busnes. Pan fo perchenogion yn rhoi caniatâd, rhoddir gwybodaeth am eu heiddo i unrhywun sy'n chwilio am gyfleoedd datblygu. Defnyddir yr wybodaeth a gesglir i helpu i ateb gofynion tir cyflogaeth gwledig yn y dyfodol, fel a ddisgrifir yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Mae'r prosiect yn gweithio gyda busnesau lleol a grwpiau cymunedol i gynhyrchu cofrestr o eiddo nas defnyddir, a datblygwyr posibl, yn ogystal â'u hannog a'u cefnogi i ddatblygu adeiladau neu safleoedd ar eu cyfer.
Wrth gwrs, un agwedd bwysig ar ddatblygu defnydd newydd ar gyfer adeilad neu safle nas defnyddir yw cynllunio. Hyd yn oed os darganfyddir nad oes angen caniatâd cynllunio i wneud yr hyn y dymunwch, mae'n rhaid i chi feddwl am hyn a gwneud yn siwr.
Dyna pam y gwahoddwyd Cymorth Cynllunio Cymru i gynnal gweithdy hyfforddi ar gyfer grwpiau cymunedol a chynghorau cymuned yn yr ardal. Bydd cyfranogwyr i'r gweithdy yn dysgu, nid yn unig sut i wneud cais cynllunio, ond hefyd yn cael y cyfle i feddwl trwy'r agweddau hynny o brosiectau datblygu sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i gynllunio defnydd tir, yn ogystal â rhannu syniadau ac ysbrydoli ei gilydd yn y broses.
Cynhelir y gweithdy hyfforddi, sy'n agored i unrhyw aelodau o grwpiau cymunedol a chynghorau cymuned, sydd â diddordeb, o fewn wardiau etholiadol gwledig Conwy, ar Ddydd Iau, Medi 24ain, 10yb tan 1yp yng Nglasdir, Llanrwst.
Os hoffech gofrestru ar gyfer y gweithdy neu os hoffech ddysgu mwy am y prosiect Asedion Cymunedol a Busnes Gwledig, cysylltwch â'r swyddog prosiect, Stuart Whitfield ar 01492 643 154.
Am ragor am wasanaethau hyfforddi Cymorth Cynllunio Cymru, gweler y tudalen hyfforddiant.