Newyddion
Adolygiad o'r system gynllunio yng Nghymru
1 Medi 2009Fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o weithrediad y broses cais cynllunio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu astudiaeth ymchwil fydd yn archwilio materion a phryderon nodedig Cymreig sy'n codi o'r broses cais cynllunio.
Amcan yr adolygiad yw sicrhau bod y system gynllunio yn addas i'r diben ac yn barod i gefnogi adferiad economaidd cynaliadwy yng Nghymru. Yn enwedig, dymuniad Llywodraeth y Cynulliad yw bod y system cais cynllunio yn ysbrydoli hyder y cyhoedd a busnesau ac yn dosbarthu datblygiad a lloeoedd cynaliadwy o ansawdd, yn enwedig mewn amgylchiadau economaidd heriol.
Cyflawnir y prosiect ymchwil gan dîm cynllunio GVA Grimley Cyf sy'n lleoledig yng Nghaerdydd ac fe'i goruchwylir gan Grŵp Llywio Ymchwil annibynnol, gyda chynrychiolwyr o'r sectorau cyhoedd, preifat a thrydydd. Apwyntiwyd Elwyn Thomas, Prif Weithredwr Cymorth Cynllunio Cymru fel aelod o'r grŵp llywio. Gan ddefnyddio'i brofiad o gleientiaid Cymorth Cynllunio Cymru bydd yn gallu cefnogi agwedd defnyddwyr lleyg y system gynllunio.
Dywedodd Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai: "Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i ddelio gyda'r heriau sy'n ein wynebu nawr. Bydd yn defnyddio tystiolaeth o Gymru gyfan a gweddill y DU, yn cynnwys adolygiad diweddar Killian Pretty yn Lloegr. Bydd yn nodi enghreifftiau o ymarfer da a bydd yn cynnig adrannau i'w gwella yn y dyfodol."