Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Ymgynghoriad: Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar ynni a phorthladdoedd

24 Tach 2009

Er bod cyfrifoldeb dros y system gynllunio yng Nghymru yn gyffredinol wedi ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae cynllunio ar gyfer seilwaith ynni a phorthladdoedd a ystyrir yn 'arwyddocaol yn genedlaethol' yn parhau i fod yn gyfrifoldeb San Steffan.

Cyflwynodd Deddf Gynllunio 2008 system newydd i ddelio gyda cheisiadau i adeiladu cyfleusterau seilwaith arwyddocaol yn genedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Bydd corff annibynnol newydd, y Comisiwn Cynllunio Seilwaith (CCS) yn archwilio ac yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer prif ddatblygiadau seilwaith newydd. Bydd y CCS yn seilio'i benderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio unigol ar y Datganiadau Polisi Cenedlaethol (DPC) perthnasol. Os bydd y datblygiad arfaethedig yn cyflawni gofynion y Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol, ac os bydd y datblygwr wedi cynnal rhaglen ymgynghori gyda chymunedau lleol cyn gwneud y cais, yna mae'n debygol o gael caniatâd.

Os ydych am ddylanwadu ar benderfyniadau ar geisiadau yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau megis ffermydd gwynt mawr, datblygiadau porthladdoedd neu o bosibl orsaf ynni niwclear yn eich ardal, mae'n bwysig eich bod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol.

Mae ymgynghoriadau ar agor ar hyn o bryd ar y dogfennau canlynol:

  • Polisi Trosfwaol Seilwaith Ynni Cenedlaethol
  • Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy
  • Gorsafoedd Ynni Tanwydd Ffosil
  • Seilwaith Cyflenwi Nwy, Pibau Nwy ac Olew
  • Rhwydweithiau Trydan
  • Gorsafoedd Ynni Niwclear
  • Porthladdoedd

Y dyddiadau cau yw Chwefror 15fed 2010 ar gyfer DPC porthladdoedd a Chwefror 22ain 2010 ar gyfer pob DPC yn ymwneud ag ynni.

Ceir mwy o wybodaeth ar Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol a chysylltiadau i'r dogfennau ymgynghori ar www.nationalpolicystatements.org.uk.