Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Tîm Cymorth Cynllunio Cymru'n chwilio am her

23 Tach 2009

Hydref diwethaf treuliodd tîm staff Cymorth Cynllunio Cymru ddydd llawn egni yn y goedwig yn adeiladu cylch coed ac ardal dysgu am fywyd gwyllt ym Mharc Gwledig Porthceri. Roeddem yn chwilio am her a fyddai'n ein cymryd allan o'n rôl arferol ac hefyd yn helpu'r gymuned, ac yn wir fe ddaethom o hyd i hyn ym Mhorthceri.

Nawr rydym yn chwilio am brosiect cymunedol heriol arall i weithio arno ar ein dydd allan o'r swyddfa eleni. Os byddai'ch prosiect chi'n elwa o gael deg llaw egnïol i'ch cynorthwyo am ddiwrnod, cysylltwch â ni.