Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Noson Gwis Cymorth Cynllunio Cymru a Rhwydwaith y Cynllunwyr Ifanc

5 Maw 2010

Mae'r Cwisfeistr, James yn gwahodd ffrindiau a chefnogwyr Cymorth Cynllunio Cymru i Noson Gwis arall ar Nos Fercher, Ebrill 28ain 2010 am 6.30yh (y cwis i gychwyn yn brydlon am 7.00yh) yng ngwesty'r Park Inn, Heol Mary Ann, canol Caerdydd.

Cost y cwis (fydd yn daladwy ar y noson) fydd £4 i bob cystadleuydd (£3 i fyfyrwyr) gyda'r elw'n mynd at Gymorth Cynllunio Cymru a Rhwydwaith Cynllunwyr Ifanc Cymru. Nid yw gwybodaeth gynllunio arbenigol yn angenrheidiol!

Rydym yn croesawu cystadleuwyr yn unigol neu fel tîm i'r cwis. Rydym yn edrych am dimau o bump neu lai i gystadlu. Bydd yn iawn os ydych am gystadlu fel unigolyn oherwydd byddwn yn eich rhoi mewn tîm ar y noson.

Ceir ffurflen gofrestru a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y gwesty yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cwis cysylltwch â James Davies.