Newyddion
Adolygiad o'r broses ceisiadau cynllunio yng Nghymru
5 Maw 2010Fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o weithrediad y broses ceisiadau cynllunio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu astudiaeth ymchwil sy'n archwilio'r materion a phryderon sy'n nodweddiadol Gymreig sy'n deillio o'r broses ceisiadau cynllunio. Cymerodd Cymorth Cynllunio Cymru ran yn un o'r grwpiau ffocws a drefnwyd fel rhan o'r ymchwil. Cyfrannodd Cymorth Cynllunio Cymru bersbectif defnyddwyr lleyg y system i'r drafodaeth, yn seiliedig ar brofiadau ein cleientiaid.
Mae tîm Cymorth Cynllunio Cymru hefyd wedi cyflwyno crynodeb ysgrifenedig o'i ymatebion i'r cwestiynau grwpiau ffocws a welir yma.
Bydd adroddiad yr astudiaeth ar gael i'w lawrlwytho o wefan GVA Grimley www.gvagrimley.co.uk/wagplanningconsultation o ddydd Llun 8 Mawrth. Yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad bydd pedair wythnos o ymgynghoriad, a fydd yn dod i ben ar 8 Ebrill 2010. Bydd manylion o sut i gyflwyno sylwadau hefyd yn ymddangos ar y wefan.