Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Rydym wedi mabwysiadu'r polisi preifatrwydd hwn i esbonio sut fydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch inni tra'n ymweld â'r wefan hon yn cael ei phrosesu a'i defnyddio.
Nodwch eich bod, trwy ymweld â'r wefan hon, yn derbyn yr ymarferion a ddisgrifir yn y polisi hwn.
Deddf Diogelu Data 1998
Dan y Ddeddf Diogelu Data mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn oddi wrthych chi. Mae'n rhaid inni ddiogelu eich data a chynnal safonau diogelwch llym i wahardd unrhyw ddefnydd anawdurdodedig ohono.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw fanylion personol i unrhyw un arall, ac eithrio ein bod wedi cysylltu â chi o flaen llaw a chithau wedi rhoi caniatâd inni wneud hynny. Cedwir yr holl ddata ar gronfa ddata sy'n cael ei ddefnyddio gan staff awdurdodedig Cymorth Cynllunio Cymru yn unig.
Defnyddir y data mewn dwy ffordd:
1. I reoli eich achos – rhennir gwybodaeth berthnasol rhwng ein Gweinyddydd, Rheolwr Achos a /neu'r proffesiynolwr cynllunio sy'n delio gyda'ch achos.
2. I ddarparu ystadegau – rydym yn monitro adrannau amrywiol o'n gwaith (yn cynnwys cyfanswm y nifer o ymholiadau a dderbyniwyd, y mathau o ymholiadau a chefndir ethnig y bobl sy'n chwilio am gymorth) i sicrhau y rhoddir ein gwasanaethau i'r bobl hynny sydd ei wir angen.
Os oes gennych unrhyw gwynion ynghylch y dull rydym yn defnyddio a phrosesu gwybodaeth bersonol, yna ysgrifennwch at Gadeirydd Bwrdd Rheoli Cymorth Cynllunio Cymru gan roi 'Cyfrinachol' ar yr amlen a'i anfon i'r swyddfa yng Nghaerdydd.
Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu oddi wrth ymwelwyr i'r wefan?
Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth oddi wrth ymwelwyr i'r wefan hon:
1. Adborth gan bobl a anfonodd neges ebost.
2. Gwybodaeth am ddefnyddio'r safle – am fanylion gweler isod.
Nid yw Cymorth Cynllunio Cymru yn cadw unrhyw fanylion personol am unigolion sy'n ymweld â'r wefan hon, ac eithrio eich bod yn dewis, yn wirfoddol, rhoi eich manylion personol inni ar ebost, neu eich bod yn gofyn am wybodaeth bellach am unrhyw un o'n gwasanaethau, neu eich bod wedi cael enw defnyddiwr a chyfrinair.
Dim ond i ddarparu'r wybodaeth a ofynnoch amdani y defnyddir unrhyw ddata personol y dewiswch ei roi inni. Ni throsglwyddir y data i unrhyw sefydliad na pherson arall oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd o flaen llaw.
1. Adborth
Os anfonwch ebost neu lythyr yn gofyn am wybodaeth gennym, efallai byddwn am gysylltu â phobl neu sefydliadau eraill i gael y wybodaeth i chi. Er enghraifft, os yw eich cwestiwn ynghylch mater technegol efallai bydd rhaid inni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg gwybodaeth.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol pan yn delio gyda'ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd o flaen llaw inni wneud hynny. Unwaith byddwn wedi eich ateb, rydym yn cadw cofnod o'ch neges ebost am chwe mis at bwrpas cyfeirio ac archwilio, ac yna fe'i dileir.
2. Gwybodaeth defnyddio'r safle
Cwcis
Cwci yw ffeil destun fach mae gwefan yn ei roi ar eich cyfrifiadur i'ch galluogi i bersonoleiddio neu addasu eich ymweliadau i'r safle yna yn y dyfodol. Er enghraifft, defnyddiwn cwcis i gofio gosodiadau hygyrchedd a hoffterau efallai y dewiswch eu gwneud yn ein gwefan. Hefyd gellir defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am bobl sy'n ymweld â gwefannau.
Rydym yn defnyddio cwcis i gadw gwybodaeth ynghylch pa rannau o'r safle a lawrlwythwyd gan eich porwr pan ymweloch. Gwnawn hyn i ddarganfod sut mae pobl yn symud o amgylch y safle er mwyn gwella'r gwasanaeth a roddwn i chi.
Fel arfer nid yw'r cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol. Ni all cwci ddarllen data o'ch disg galed na darllen ffeiliau cwci sydd wedi eu creu o safleoedd eraill. Gallwch ddewis derbyn cwcis trwy newid gosodiadau eich porwr. Yn nodweddiadol, trwy fynd i nodwedd help y porwr, gallwch gael gwybodaeth ar sut i rwystro eich porwr rhag derbyn pob cwci neu i'ch hysbysu pan anfonir cwci. Os ddewiswch chi beidio â derbyn y cwcis hyn, efallai bydd eich profiad o'n gwefan ni a gwefannau eraill yn llai effeithiol ac efallai na fydd rhai nodweddion yn gweithio fel y dylent.
Ffeiliau cofnod
Mae ffeiliau cofnod yn ein galluogi ni i gofnodi defnydd yr ymwelwyr o'r safle. Defnyddiwn yr wybodaeth hon i wella ein gwasanaeth i chi.
Nid yw ffeiliau cofnod yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch.
Cyfeiriad IP
Rhoddir enw parth i bob cyfrifiadur â chysylltiad â'r Rhyngrwyd (e.e.earthlink.net) a chyfeiriad IP (e.e 65.15.36.78). Pan fydd ymwelwydd yn gofyn am dudalen o wefan Cymorth Cynllunio Cymru, bydd ein gweinydd gwefan yn adnabod a chofnodi'r cais HTTP a wneir i'n gweinydd gwefan. Nid yw'r wybodaeth hon yn datgelu unrhyw beth personol amdanoch. Mewn gwirionedd, yr unig wybodaeth a gasglwn yn awtomatig a chofnodi yw'r canlynol:
- Cyfeiriad IP y safle a'ch cyfeiriodd
- Eich cyfeiriad IP
- Tudalen y wefan y cysylltoch â ni oddi wrthi, os oes un
- Y côd adnabod cynnyrch ar gyfer fersiwn a gwneuthuriad y porwr (e.e. Internet Explorer 5.0)
- Y llwyfan system weithredu rydych chi'n ei rhedeg (e.e. Macintosh neu Windows)
- Geiriau neu dermau chwilio a anfonir ymlaen o'r peiriant chwilio (e.e. Google, Yahoo neu Lycos)
Enwau defnyddiwr
Gall staff a gwirfoddolwyr Cymorth Cynllunio Cymru ddewis bod yn ddefnyddwyr cofrestredig er mwyn mynd at adrannau o'r wefan sydd ddim ar gael i'r cyhoedd. Pan fydd defnyddiwr cofrestredig wedi mewngofnodi tra'n pori'r safle mae'n bosibl cysylltu'r wybodaeth uchod am ddefnydd o'r safle â'u henw a'u manylion cysylltu.
Cael golwg ar eich gwybodaeth a chysylltu â Chymorth Cynllunio Cymru
Os hoffech weld ein cofnodion ar unrhyw ohebiaeth a ddanfonoch atom neu os oes gennych ymholiad neu gwyn ynghylch y polisi preifatrwydd yma neu am y wefan, gallwch gysylltu â ni ar ebost ar y dudalen cysylltu.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Bydd adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o'r wybodaeth a gasglwn, sut y'i defnyddiwn a than pa amgylchiadau, os oes rhai, y byddwn yn ei rhannu ag eraill.
Hawlfraint 2008 © Cymorth Cynllunio Cymru Cedwir Pob Hawl