Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Beth sy'n newydd?

Mae ein map rhyngweithiol yn eich arwain at wybodaeth am eich awdurdod cynllunio lleol.

Adran y cynghorau cymuned a thref

Mae'r adran yma o'r wefan yn dal i gael ei adeiladu.

Yn y cyfamser defnyddiwch yr adran gyffredinol ar y cyd â'n taflenni ffeithiau arbenigol i gynghorau cymuned a thref.


Newyddion diweddaraf

Hyfforddiant ac adnoddau cynllunio ar gyfer cynghorau cymuned a thref

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wrthi'n paratoi cyfres gynhwysfawr o ddeunyddiau hyfforddi ar gyfer cynghorau cymuned a thref, gyda nawdd gan Lywodraeth y Cynlluniad. Un rhan o'r deunyddiau'n bydd pedwar 'pecyn gweithgareddau' sy'n cynnwys yr holl gyfarwyddiadau ac adnoddau sydd eu hangen er mwyn i gynghorau gynnal eu sesiynau hyfforddi eu hun ar agweddau allweddol o cynllunio lleol.

Cyn cyhoeddi'r pecynnau gweithgareddau, rydym yn chwilio am gynghorau a fuasai'n fodlon helpu eu treialu yn yr hydref. Dyma'ch cyfle i gael sesiwn hyfforddiant gyda hwylusydd o Gymorth Cynllunio Cymru yn rhad ac am ddim. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Marika Fusser ar 01286 882 834 neu drwy e-bost erbyn y 12fed o Ragfyr. Os oes mwy nag un ymgeisydd ar gyfer un pecyn, tynnir enwau allan o het.

Gallwch ddewis rhwng pedwar pecyn ar y pynciau canlynol:

  1. Gwella'ch perthynas a chyfathrebu gyda'ch awdurdod cynllunio lleol
  2. Cyfrannu'n effeithiol at baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol
  3. Gwneud sylwadau effeithiol ar geisiadau cynllunio
  4. Tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol mewn ardaloedd gwledig

Unwaith bydd y deunyddiau'n barod, bydd y rhan fwyaf ohonynt ar gael i'w lawrlwytho am ddim oddi ar yr adran yma o'n gwefan.