Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Gwirfoddoli gyda Chymorth Cynllunio Cymru

Dechreuwyd y gwasanaeth cymorth cynllunio yng Nghymru ym 1978 gan grwp bach o wirfoddolwyr ymroddedig ac egnïol. Ers hynny mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ganolog yn narpariaeth gwasanaeth cymorth cynllunio ar gyfer pobl Cymru.

Er bod Cymorth Cynllunio Cymru erbyn hyn yn derbyn grant craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n caniatáu cyflogi tîm bach o staff i gydlynu gweithgareddau, mae cyfraniad y gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn ganolog i'n gwaith ac yn gymorth mawr i gyflawni'n hamcanion.

Yn gynyddol mae Cymorth Cynllunio Cymru'n cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan ym mhob un o'n gweithgareddau.

Mae gwirfoddolwyr yn cymryd achosion o'r Llinell Gymorth, yn cynghori a chefnogi unigolion a grwpiau cymunedol ar draws sbectrwm o faterion cynllunio.

Mae gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda pharatoi a chyflwyno hyfforddiant i grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a sefydliadau eraill.

Gall gwirfoddolwyr ymuno â'r Bwrdd Rheoli fel cyfarwyddwyr a gweithredu fel mentoriaid i wirfoddolwyr llai profiadol.

Mae gwirfoddolwyr yn helpu paratoi cyhoeddiadau, yn gweithio ar gyhoeddusrwydd ac yn trefnu digwyddiadau.

I ddarganfod mwy am yr amrediad o weithgareddau y gall gwirfoddolwyr gymryd rhan ynddynt, cliciwch yma.

Pwy all wirfoddoli?

Gall unrhyw un wirfoddoli i gynorthwyo Cymorth Cynllunio Cymru ond dim ond cynllunwyr gyda'r cymwysterau a'r profiad priodol all roi cyngor cynllunio a chefnogaeth i gleientiaid y Llinell Gymorth.

Nodwch nad oes rhaid i wirfoddolwyr fod yn aelodau corfforaethol o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.

Pam ddylwn i wirfoddoli?

Gall gwirfoddoli gyda CCC:

  • gyfri tuag at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • darparu 'gwiriad realaeth' defnyddiol trwy roi agweddau newydd ar sut mae'r cyhoedd yn rhyngweithio â'r system gynllunio
  • rhoi mewnwelediad i adrannau newydd gweithgaredd cynllunio
  • ehangu profiad o sut mae awdurdodau lleol a / neu sectorau eraill yn gweithredu
  • ehangu rhwydweithiau proffesiynol
  • darparu profiad gwerthfawr o ymgynghoriad cymunedol a meithrin gallu
  • adnewyddu diddordeb ac agor y drws i gyfleoedd newydd
  • rhoi mynediad i hyfforddiant perthnasol rhad
  • caniatáu i gynllunwyr sydd wedi ymddeol, wedi cymryd saib yn eu gyrfa neu sy'n gweithio tu allan i gynllunio prif-ffrwd gadw mewn cysylltiad â'r materion cynllunio diweddaraf
  • rhoi cyfleoedd i gynllunwyr sydd newydd gael cymhwyster i ehangu eu profiad
  • datblygu sgiliau rhyngbersonol
  • rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned ehangach
  • helpu gwella'r cysylltiadau rhwng y cyhoedd a'r system gynllunio
  • fod yn werthfawr ac yn rhywbeth i'w fwynhau!

Os ydych am wybod mwy am wirfoddoli gyda Chymorth Cynllunio Cymru, cysylltwch â'n Cydlynydd Gwirfoddolwyr James Davies ar 02920 464 205 neu ar ebost.

Os hoffech gofrestru i fod yn wirfoddolwr, gallwch lenwi ffurflen gais gwirfoddoli arlein trwy glicio yma.